Gofal Diwedd Oes

Mae gofal diwedd oes o ansawdd i’r rheini sy’n dioddef o ddiabetes yn cynnwys:

  • Trafodaethau cynnar gyda’r tîm diabetes i gynorthwyo gyda monitro a chynllunio gofal
  • Osgoi hypoglycemia- lefelau glwcos yn is na 6mmol/L, mae angen adolygu triniaeth felly cysylltwch â’r meddyg teulu
  • Yn ystod diwrnodau olaf bywyd, ni ddylai lefelau glwcos fod yn is na 8mmol/L. Efallai fod angen adolygu’r driniaeth – cysylltwch â meddyg teulu
  • Osgoi hyperglycemia symptomatig- lefelau glwcos yn uwch na 15mmol/L yn rheolaidd
  • Arsylwi am ddadhydradiad
  • Sicrhau parch ac urddas, trafod gyda’r unigolyn a gwrando arno

Yng nghamau olaf bywyd:

  • Ni ddylid rhoi’r gorau i roi inswlin i bobl sy’n dioddef o ddiabetes math 1 ond gellid eu newid i gynllun inswlin sylfaenol mwy syml – siaradwch â’r meddyg teulu, nyrs ardal neu dîm diabetes am gyngor
  • Gellir rhoi’r gorau i feddyginiaeth diabetes ym mhobl sy’n dioddef o ddiabetes math 2 – dan yr amgylchiadau hyn, y nod yw sicrhau rheolaeth o symptomau – siaradwch â’r meddyg teulu, nyrs ardal neu dîm diabetes am gyngor
  • Gwnewch gyn lleied o brofion glwcos gwaed â phosibl. Mae’n bosibl bod angen peth brofion i leihau risg lefelau glwcos isel neu uchel
  • Os ydych yn pryderu y gallai symptom fod yn gysylltiedig â diabetes, gwiriwch y lefel glwcos a rhowch wybod i’r nyrs gofrestredig, meddyg teulu, nyrs ardal neu dîm arbenigol diabetes os ydyw y tu allan i’r ystod glwcos dargedig
  • Gall profi wrin (os ydyw ar gael) am glwcos helpu os ydych yn amau bod symptomau yn gysylltiedig â diabetes
  • Os yw inswlin rhywun sydd â diabetes math 2 yn cael ei atal, arsylwch yr unigolyn dan sylw yn agos am symptomau yn datblygu. Siaradwch â’r meddyg teulu a’r tîm diabetes
  • Os oes rhaid gwneud profion pigo bys yn aml, gall y nyrs arbenigol diabetes gynnig monitro glwcos fflach

Gwnewch cyn lleied o ymyraethau a monitro â phosibl. Cadwch yr unigolyn yn ddiogel heb gyfaddawdu diogelwch

Gall y gofynion i reoli diabetes
newid yn gyflym ar ddiwedd bywyd rhywun, ac mae’r tîm diabetes a meddyg teulu a nyrsys ardal yr unigolyn yno i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.

18 Gofal Diwedd Oes

Profwch eich gwybodaeth

1. Beth yw'r flaenoriaeth wrth warchod unigolyn â diabetes sy'n cyrraedd gofal diwedd oes?
2. Ni ddylid peidio â rhoi inswlin i bobl sy'n dioddef o ddiabetes math 1
3. Gellir peidio â rhoi Meddyginiaeth Diabetes yng nghamau olaf bywyd rhywun sydd â diabetes math 2
4. Beth a ellir ei ddefnyddio yn lle pigo bys i fonitro lefelau glwcos yng nghamau olaf bywyd?