Cymhlethdodau Hirdymor Diabetes

Gall niwed parhaol ddigwydd yn y corff o ganlyniad uniongyrchol i lefelau uchel o glwcos yn y gwaed am gyfnod estynedig.1Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Dyna pam mae’n bwysig ceisio cynnal lefelau glwcos rhwng 6 – 12 mmol/l. Gall gormod o glwcos yn y gwaed amharu ar y pibellau gwaed a gall arwain at groniad o ddyddodion brasterog a all wneud niwed i waliau’r pibellau gwaed. Gall hyn arwain at y cymhlethdodau canlynol, neu os oes cymhlethdodau yn bodoli eisoes, gall eu gwaethygu:

Trawiad ar y galon, strôc a chylchrediad gwaed gwael i’r pibellau gwaed mawr yn y coesau (clefyd prifwythiennol ymylol)

Mae lefelau glwcos uchel dros gyfnod o amser yn gwneud niwed i bibellau gwaed a gall hyn arwain at bwysedd gwaed uchel a llif gwaed gwael. Gall lefelau glwcos uwch yn y gwaed arwain at blac brasterog yn datblygu a gall y rhain dorri a ffurfio tolchenni. Weithiau, gall hyn arwain at drawiad ar y galon, strôc a/neu glefyd prifwythiennol ymylol.

Problemau gydag arennau (neffropathi)

Gall diabetes achosi niwed i’r arennau dros gyfnod hir o amser drwy ei gwneud hi’n fwy anodd clirio hylif ychwanegol a gwastraff o’r corff. Achosir hyn gan lefelau glwcos uchel yn y gwaed a phwysedd gwaed uchel. Gelwir hyn yn neffropathi diabetig neu glefyd yn yr arennau.

Niwed i nerfau (niwropathi)

Gall lefelau glwcos uchel yn y gwaed arwain at niwed i nerfau. Gall hyn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r nerfau gludo negeseuon rhwng yr ymennydd a phob rhan o’r corff, felly gall effeithio sut ydym yn gweld, yn clywed, yn teimlo, yn symud ac yn cyffwrdd.

Problemau llygaid (retinopathi)

Mae rhai pobl sy’n dioddef o ddiabetes yn datblygu clefyd llygaid o’r enw retinopathi diabetig a all effeithio ar eu golwg. Os rhoddir diagnosis o retinopathi – fel arfer drwy brawf sgrinio llygaid – gellir ei drin a gellir atal yr unigolyn rhag colli ei olwg (gweler yr adran Sgrinio Llygaid).

Problemau traed

Mae dioddef o ddiabetes yn golygu bod pobl mewn mwy o risg o broblemau traed difrifol a all arwain at wlseriad a’r posibilrwydd o orfod colli’r droed os na chaiff ei thrin. Gall niwed i nerfau effeithio ar y teimlad yn y traed. Mae lefelau uchel o glwcos yn y gwaed yn lleihau cylchrediad a all arwain at glwyfau yn gwella’n wael. Mae’n hanfodol dweud wrth y meddyg teulu os ydych yn sylwi ar unrhyw newid yn nhraed yr unigolyn.

Clefyd y deintgig a phroblemau arall gyda’r geg

Gall lefelau glwcos uchel arwain at facteria yn y geg a all gynyddu’r risg o haint yn y daint a’r deintgig. Gall pibellau gwaed y deintgig gael eu niweidio hefyd, sy’n ei gwneud hi’n fwy tebygol i rywun ddioddef o haint yn y deintgig.

Po uchaf yw’r lefel HbA1c (lefel y glwcos yn y gwaed), po uchaf yw’r risg o ddatblygu cymhlethdodau neu waethygu cymhlethdodau sydd eisoes yn bodoli a all effeithio ar ansawdd bywyd.

Adolygiad diabetes blynyddo

Mae gan bobl sy’n dioddef o ddiabetes yr hawl i gael adolygiad diabetes blynyddol. Mae’n bosibl bod y rhain wedi’u hoedi oherwydd COVID, ond byddant yn cael eu haildrefnu. Ni fydd yr apwyntiadau yn rhai wyneb yn wyneb bob tro, efallai y cewch gynnig galwad fideo neu dros y ffôn. Bydd pobl sydd ag anghenion mwy brys yn cael eu blaenoriaethu. Dilynwch y ddolen hon am gyngor ar baratoi ar gyfer yr apwyntiad: https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/managing-your-diabetes/preparing-remote-appointments

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Dylid gwirio’r prosesau gofal hyn o leiaf bob blwyddyn. Gellir gwneud hyn fel rhan o’r adolygiad diabetes blynyddol. Os nad yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn gallu mynychu’r gwiriadau hyn, naill ai ym meddygfa’r meddyg teulu neu yng nghlinig diabetes yr ysbyty, yna mae angen i chi gysylltu â’r meddyg teulu ac mae’n bosibl y gall drefnu’r gwiriadau hyn yn y gymuned.

Beth yw’r canllawiau?

Mae Canllawiau Clinigol NICE yn amlinellu’r gwiriadau gofal iechyd neu dargedau’r triniaethau gofal ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddiabetes Yn ôl y canllawiau hyn, dylai bob un dros 12 oed sy’n dioddef o ddiabetes gael y naw gwiriad gofal iechyd canlynol o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae canllawiau Clinigol NICE yn amlinellu'r gwiriadau gofal iechyd neu dargedau'r triniaeth gofal ar gyfer pobl sy'n dioddef o ddiabetes.

Dylai pawb sy’n dioddef o ddiabetes barhau i gael adolgiad diabetes blynyddol lle bynnag maent yn byw a gellir gwneud trefniadau gyda’r darparwr iechyd lleol i gwblhau’r gwiriadau hyn os nad ydynt yn gallu ceisio’r gwasanaeth y tu hwnt i’w hamgylchedd cartref.

Mae’n bosibl bod pobl hŷn diabetig eisoes yn dioddef o gymhlethdodau diabetes. Wedi dweud hynny, gyda gofal da a rheolaeth o’r ffactorau risg, gellir atal cymhlethdodau yn llwyr, neu eu hatal rhag gwaethygu. Dyma rai o’r hanfodion gofal iechyd y dylid eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn rheoli diabetes.

  • pwysedd gwaed
  • lefelau braster yn y gwaed (lipids e.e. lefelau colesterol)
  • lefelau glwcos (HbA1c)
  • deiet iach
  • monitro pwysau
  • cadw’n heini
  • rhoi’r gorau i ysmygu
  • gofalu am y traed
  • sgrinio retinol
  • lleihau straen a chynnal iechyd emosiynol
  • adolygiadau meddyginiaeth
  • monitro’r arennau
  • brechiadau Ffliw/Niwmonia Covid/Yr Eryr
  • adolygiad diabetes blynyddol

Yn rhai achosion gellir atal cymhlethdodau, neu gellir atal cymhlethdodau sydd eisoes yn bodoli rhag gwaethygu.

Cysylltwch â’r meddyg teulu os ydych yn amau bod yr unigolyn diabetig mewn risg o unrhyw un o’r cymhlethdodau hyn neu os ydych o’r farn bod unrhyw gymhlethdodau cyfredol yn gwaethygu

Mae gan Diabetes UK (2020) nifer o adnoddau i’ch cynghori ar y 15 hanfod gofal y dylai bod pobl ddiabetig yn eu derbyn i helpu i gynnal eu hiechyd. Ewch i: https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/managing-your-diabetes/care-to-expect

Coronafeirws (COVID) a Diabetes

Mae pobl sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n byw mewn cartref gofal/nyrsio neu sydd o bosibl yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain yn fwy agored i effeithiau’r coronafeirws. Oherwydd lefel eiddilwch y grŵp hwn o bobl, mae wedi arwain at nifer o farwolaethau (Covid-19 and Diabetes: Interim Care Home Guidance 12 Mai 2020). Gall diabetes sy’n cael ei reoli’n wael gynyddu risg unigolyn o gael ei heintio â Covid-19 ac effeithio ar ei adferiad petai’n cael ei heintio.

Mae nifer o adnoddau a chanllawiau ar gael i helpu gofalwyr gefnogi pobl sy’n dioddef o ddiabetes a gallwch weld y rhain yn:

https://www.diabetes.org.uk/about_us/news/coronavirus
https://www.diabetes.org.uk/about_us/news/coronavirus-vaccines

COVID-19
Mae tystiolaeth yn dangos y gall pobl ddiabetig sy’n cael eu heintio â Covid-19 fod mewn risg uwch o ddatblygu symptomau mwy difrifol. Pwysig yw sicrhau bod pobl ddiabetig yn cael adolygiad o reolaeth eu diabetes.

Anogir yn gryf pobl sy’n dioddef o ddiabetes i gymryd y brechiadau coronafeirws

13 Cymhlethdodau Hirdymor

Profwch eich gwybodaeth

1. Dewiswch 4 o gymhlethdodau diabetes
2. Sut ydym yn rheoli diabetes i gynorthwyo i atal cymhlethdodau ac i atal cymhlethdodau rhag dirywio ymhellach? Dewiswch bob un sy'n berthnasol

  • 1
    Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal