Retinopathi Diabetig a Sgrinio Llygaid Diabetig

Beth yw Retinopathi Diabetig?

Mae Retinopathi Diabetig (RD) yn un o gymhlethdodau diabetes sy’n effeithio ar bibellau gwaed bach yng nghefn y llygaid (y retina). Gall lefelau glwcos uchel yn y gwaed achosi i’r pibellau gwaed bach yn y retina gau. Pan mae hyn yn digwydd, mae’r llygaid yn cyfaddawdu am y cyflenwad gwaed is drwy dyfu pibellau gwaed newydd sy’n fregus ac yn gallu gollwng. Y retina yw rhan ‘gweld’ y llygaid, a gall effeithio ar y golwg os caiff ei niweidio. Os caiff ei adael heb ei drin, gall hyn achosi dallineb neu golli golwg na ellir mo’i wella.

Atal a Thrin

Mae hwn yn gyflwr graddol, ond gellir oedi neu wella niwed i’r llygaid yn y camau cynnar.

Y prif fesurau ataliol yw monitro a rheoli lefelau glwcos yn y gwaed, pwysedd gwaed a cholesterol. Efallai fod yr unigolyn yn cymryd meddyginiaethau i helpu i leihau eu risgiau. Bydd bwyta deiet cytbwys a chadw’n heini hefyd yn fuddiol.

Sgrinio am Retinopathi Diabetig

  • Dylai pobl sy’n dioddef o ddiabetes fynd am apwyntiadau sgrinio llygaid yn rheolaidd yn ogystal â phrofion llygaid rheolaidd gydag optegydd. Dylai fod optegydd neu optometrydd yn ymchwilio i unrhyw broblemau gyda’r golwg, yn hytrach nag aros am apwyntiad sgrinio llygaid .
  • Mae sgrinio llygaid diabetig yn cynnwys tynnu ffotograffau o gefn y llygaid gan ddefnyddio camera arbennig, ar ôl rhoi diferion yn y llygaid i ymledu’r gannwyll llygad. Gall y diferion llygaid fod yn anghyfforddus a bydd yn achosi amhariad i’r golwg am oddeutu 4-6 awr.
  • Mae’r apwyntiad sgrinio llawn yn cymryd rhwng 40 munud ac awr. Mae’n cymryd oddeutu 5 i 10 munud i dynnu lluniau’r llygaid. Bydd angen i’r unigolyn sy’n cael ei sgrinio barhau i eistedd yn edrych ar y camera, gan gadw ei ben yn llonydd a symud ei lygaid yn ôl y cyfarwyddyd er mwyn tynnu ffotograffau clir.
  • Yna caiff delweddau’r llygaid eu hasesu am Retinopathi Diabetig (RD). Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu galw i gael eu sgrinio bob 1-2 flynedd, ond bydd oddeutu 1 ym mhob 50 o bobl sy’n cael y prawf yn cael ei atgyfeirio at arbenigwr llygaid am ragor o ymchwiliad neu i drin ei retinopathi

Dylid gofyn am gyngor gan dîm nyrsio DESW cyn mynychu’r clinig, drwy alw llinell gymorth DESW sydd i’w gweld ar y llythyr apwyntiad ac 01443 44244 neu 03000 030 500.

  • Nid yw sgrinio yn atal retinopathi, ond gall ei adnabod yn gynnar pan mae’r driniaeth yn fwy effeithiol.
  • Eich dewis chi yw mynychu apwyntiad sgrinio. Mae rhai pobl yn dewis peidio mynd, neu’n methu mynd i apwyntiadau sgrinio. Byddant yn dal i gael eu gwahodd i apwyntiad sgrinio’r llygaid eto cyn belled ag nad ydynt:
    – yn gwbl ddall yn y ddwy lygad
    – wedi optio allan o’r gwasanaeth
    – wedi’u hasesu’n anghymwys i gael eu sgrinio
  • Nid yw pobl na allant fynychu clinig cymunedol yn gallu cael eu sgrinio e.e.
    – efallai na fydd y rheini na allant aros yn llonydd
    – y rheini na allant blygu ymlaen
    – a/neu’r rheini na allant ddilyn cyfarwyddiadau gael eu sgrinio

Gellir trin retinopathi. Mae’n hanfodol sgrinio llygaid yn rheolaidd.

Cyflyrau Llygaid Eraill

Gall pobl sy’n dioddef o ddiabetes fod mewn risg uwch o gataractau a glawcoma. Mae’r risg o’r cyflyrau hyn yn cynyddu gydag oedran, ac i bobl sy’n dioddef o ddiabetes.

Cataractau

Achosir cataractau pan mae’r lens yn y llygaid yn datblygu mannau cymylog. Mae hyn yn achosi:

  • Golwg cymylog neu wedi’i amharu
  • Golwg dwbl
  • Trafferthion gweld mewn golau gwael
  • Sensitifrwydd i olau a golau llachar

Glawcoma

Achosir glawcoma gan bwysedd cynyddol yn y llygaid a gall niweidio nerf y llygaid. Dyma’r arwyddion:

  • Colli golwg ochr neu berifferol
  • Gweld lleugylchau o gwmpas goleuadau
  • Amhariad i’r golwg

16 Retinopathi a Sgrinio Llygaid Diabetig

Profwch eich gwybodaeth

1. Dylai pobl sy'n dioddef o ddiabetes gael eu sgrinio'n rheolaidd ar gyfer y Sgrinio Llygaid Diabetig
2. Dylai unigolyn sy'n mynd i apwyntiad sgrinio llygaid diabetig allu: (Dewiswch bob un sy'n berthnasol)
3. Mae retinopathi diabetig yn gyflwr sy'n effeithio ar y pibellau gwaed mawr yn nhu blaen y llygad
4. Nid oes modd osgoi retinopathi diabetig
5. Gall pobl sy’n dioddef o ddiabetes fod mewn risg uwch o gataractau a glawcoma