Profion Pwynt Gofal (POCT)

Yn yr adran hon, ceir gwybodaeth ar gyfer gofalwyr cyflogedig sy’n gwneud profion glwcos a/neu brofion cetonau gwaed yn unol â’u canllawiau neu bolisi sylfaenol.1Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal Argymhellir monitro glwcos yn rheolaidd dan yr amgylchiadau canlynol (NICE 2020).

Beth yw POCT?

Diffinnir Profion Pwynt Gofal fel unrhyw brawf patholeg a wneir gan arbenigwr gofal iechyd y tu allan i leoliad patholeg confensiynol sy’n agos at y claf.

Mae termau cyffredin eraill a ddefnyddir i ddisgrifio POCT yn cynnwys:

  • Gofal profion agos
  • Profi ymyl gwely
  • Profi ychwanegol yn y labordy
  • Profi gyda’r Claf

Mathau o POCT

  • Profion Glwcos Gwaed
  • Profion Cetonau Gwaed
  • Profion wrin

Pam ein bod ni angen POCT?

Gall POCT sy’n cael ei ddefnyddio’n iawn ac yn briodol gael manteision sylweddol, gan roi canlyniad yn agos at y claf a chaniatáu penderfyniadau clinigol cyflym. Serch hynny, os caiff ei ddefnyddio’n amhriodol, gellir cael canlyniadau anghywir a gall arwain at niwed os weithredir arnynt.

Cyn defnyddio unrhyw gyfarpar POCT, mae angen i’r defnyddiwr fod wedi cael hyfforddiant gan hyfforddwr/cydlynydd cymeradwy.

Beth yw Sicrhau Ansawdd?

Mae Sicrhau Ansawdd yn system sy’n monitro cywirdeb y canlyniadau a geir drwy wirio’r mesurydd, y stripiau a thechneg y defnyddiwr. Mae rheolaeth ansawdd fewnol a sicrwydd ansawdd allanol. Efallai na fydd sicrwydd ansawdd allanol ar gael yn eich ardal.

Rheolyddion Ansawdd Mewnol

Profion dyddiol neu wythnosol yw’r rhain yn dibynnu ar ddefnydd y mesurydd, a thoddiadau rheoli ydynt sydd ag ystod hysbys o werthoedd. Caiff y toddiadau eu rhoi ar y stribyn a chaiff cywirdeb y canlyniadau eu gwirio. Cofnodir y canlyniadau ynghyd â’r dyddiad, yr amser a rhif y stribyn a manylion y defnyddiwr. Dylid cael protocol mewn lle a dylai bod pob defnyddiwr wedi derbyn hyfforddiant rheolaeth ansawdd fewnol.

Sicrwydd Ansawdd Allanol

Dyma pan mae samplau gyda gwerthoedd anhysbys yn cael eu hanfon yn rheolaidd (yn fisol, bob 2 fis neu 3 mis), wedi’u profi gan y defnyddiwr a chaiff y canlyniadau eu dychwelyd i’r darparwr allanol. Caiff cywirdeb y canlyniadau eu gwirio ac os oes diffygion sylweddol yn y canlyniadau, cysylltir â’r defnyddiwr/safle.

Gall tîm POCT y Labordy naill ai drefnu cynllun lleol neu argymell Cynlluniau Asesu Ansawdd Allanol achrededig, priodol.

  • 1
    Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal Argymhellir monitro glwcos yn rheolaidd dan yr amgylchiadau canlynol (NICE 2020)