Meddyginiaethau a ddefnyddir i Reoli Diabetes

Mae cyfuniad o therapïau o feddyginiaethau drwy’r geg ac yn aml caiff y rhain eu presgripsiynu i leihau baich sawl meddyginiaeth a all fod yn anodd i bobl eu cymryd. Gellir presgripsiynu rhai therapïau drwy’r geg ar ffurf hylif – os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn ei chael hi’n anodd cymryd ei feddyginiaethau, siaradwch â’r fferyllydd neu’r meddyg teulu.

Gellir rhoi cyfuniad o feddyginiaethau pigiadwy, e.e. Xultophy neu Suliqua (gellir presgripsiynu cyfuniadau o inswlin ac ysgogwyr derbynwyr GLP-1 ar gyfer rhai pobl sy’n dioddef o ddiabetes ac sydd angen GLP1 a therapi inswlin). Os ydych yn ansicr am unrhyw feddyginiaethau sy’n cael eu gweinyddu i rywun sy’n dioddef o ddiabetes yr ydych chi’n gofalu amdano, siaradwch â’r fferyllydd neu feddyg teulu.

Dylid rhoi meddyginiaethau yn ôl y presgripsiwn ac yn amserol. Gall pobl sy’n dioddef o ddiabetes ddatblygu sgil-effeithiau neu ddatblygu anoddefgarwch i feddyginiaethau ar unrhyw bryd, nid yn unig ar ôl dechrau’r therapïau. Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch â’ch meddyg teulu neu’ch arbenigwr gofal iechyd arferol.

  • Dylid gwneud adolygiad rheolaidd o feddyginiaeth yn achos oedolion hŷn sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n eiddil1Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty accessed from: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021
  • Os yw oedolion sy’n dioddef o ddiabetes yn eich gofal chi wedi colli eu chwant bwyd; yn colli pwysau; yn cael trafferthion bwyta a/neu lyncu neu wedi colli eu gallu i fwydo eu hunain; neu wedi dod yn eiddil neu mae eu heiddilwch yn gwaethygu, yna maent mewn mwy o risg o hypoglycemia. Dylid eu hadolygu’n gyflym.
  • Gall meddyginiaethau megis atalyddion SGLT-2 a thiasolidinediones (pioglitason) arwain at sgil-effeithiau sy’n cynnwys colli pwysau, dadhydradu, a phosibilrwydd o golli bodiau traed (atalyddion SGLT-2)

Caiff y rhan fwyaf o bigiadau eu presgripsiynu mewn crynodiadau o 100uned/ml, ond mae inswlin ar gael mewn cryfder uwch, e.e. 200uned/ml neu 300 uned/ml. Gwiriwch y presgripsiwn ac os ydych yn ansicr, cysylltwch â’ch Darparwr Gofal Iechyd.

Risg hypoglycemia gydag inswlin – RHAID adolygu dosiau gan arbenigwr gofal iechyd.

Recommended injection sites

Dylid storio dyfeisiau pinnau inswlin sy’n cael eu defnyddio ar dymheredd ystafell (osgowch eu gosod yng ngolau’r haul neu mewn gwres e.e. gwresogydd) – fel arfer maen nhw’n DOD I BEN 28 diwrnod ar y tymheredd hwn, fel Toujeo sy’n dod i ben ar ôl 6 wythnos. Dylid storio pob dyfais pin inswlin arall yn yr oergell (nid yn ymyl y rhewgell) nes y bydd ei angen.

  • Cadwch lygad ar safleoedd y pigiad yn rheolaidd rhag lipotroffi (lympiau braster neu galed, o dan y croen), osgowch roi pigiad yn unrhyw ardaloedd lle mae lipotroffi oherwydd gall hyn effeithio ar sut mae inswlin yn cael ei amsugno ac arwain at ddarlleniadau glwcos afreolaidd yn amrywio o rhy isel ac yn rhy uchel. https://clinicathome.swan.ac.uk/
  • Os wneir hynny gan arbenigwr gofal iechyd, yna dylid defnyddio nodwyddau diogelwch bob tro
  • Dylai fod blwch offer miniog ar gael er mwyn cael gwared ar offer miniog yn syth

Cylchdro Chwistrellu

Dilynwch y cylchdro pigiad cywir bob amser

Egwyddorion cylchdro safle chwistrellu cywir:

Rhesymeg: ni wnaeth 98% o gleifion â lipohypertrophy gylchdroi safleoedd pigiad neu gylchdroi yn anghywir mewn astudiaeth gan Smith M. Clapham L. a Strauss K, (2017)

Rhoddir y delweddau gyda chaniatâd caredig gan Trend Diabetes For Healthcare Professional: Correct Injection Technique in Diabetes Care. Best Practice Guideline (2il rifyn) Mawrth 2021: https://trenddiabetes.online/wp-content/uploads/2021/03/Guideline_ITM_2021_FINAL_v2.pdf

Rhestr Wirio – Pobl sydd angen therapïau pigiadwy

17A Meddyginiaethau i Reoli Diabetes

Profwch eich gwybodaeth

1. Dylid rhoi tabledi diabetes
2. Dylid rhoi inswlin
3. Beth ddylid ei wirio bob amser wrth roi inswlin a thabledi i rywun?

17B Therapi Bigiadwy

Profwch eich gwybodaeth

1. Dylid storio inswlin sy'n cael ei ddefnyddio, gyda dyfais pin
2. Ble yw'r safleoedd a awgrymir ar gyfer rhoi pigiadau? Dewiswch bob un sy'n berthnasol
3. Wrth roi inswlin, pa fath o nodwyddau y dylid eu defnyddio?
4. Sut ddylid cael gwared ar nodwyddau inswlin?
  • 1
    Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty accessed from: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021