Beth yw Diabetes?

Diabetes1https://www.nhs.uk yw pan mae’r cyfrifiad glwcos (siwgr) yn y gwaed yn rhy uchel ac nid yw’r corff yn gallu defnyddio glwcos ar gyfer egni yn effeithiol. Pan fyddwn yn bwyta carbohydradau, mae’r rhain yn torri i lawr yn glwcos. Mae angen glwcos arnom ar gyfer egni.

Diabetes yw pan nad yw’r corff yn gallu cynhyrchu inswlin (math 1) neu nid oes digon o inswlin yn cael ei gynhyrchu ac nid yw’r inswlin yn gweithio’n iawn (math 2), sef ymwrthedd i inswlin.

Mae inswlin yn hormon sy’n cael ei gynhyrchu gan y celloedd beta mewn organ yn y corff o’r enw’r pancreas. Mae inswlin yn caniatáu i glwcos yn y llif gwaed gyrraedd y celloedd a’r cyhyrau, lle caiff ei ddefnyddio fel ffynhonnell egni.

Inswlin yw’r allwedd sy’n datgloi’r celloedd er mwyn caniatáu i’r glwcos eu cyrraedd, er mwyn i ni allu defnyddio’r glwcos ar gyfer egni.

Inswlin yw’r allwedd sy’n datgloi’r celloedd er mwyn caniatáu i’r glwcos eu cyrraedd, er mwyn i ni allu defnyddio’r glwcos ar gyfer egni.

Profi eich Gwybodaeth

1. Diabetes yw pan mae'r cyfrif glwcos yn y gwaed yn rhy uchel
2. Ymwrthedd i inswlin yw pan nad yw'r inswlin a gynhyrchir yn gweithio'n iawn
3. Mae angen glwcos arnom i gael egni
4. Mae inswlin yn hormon sy'n cael ei gynhyrchu gan gelloedd beta'r pancreas
5. Pa faetholyn yw ein prif ffynhonnell egni?