Cyflwyniad

Wrth i boblogaeth y DU fyw’n hirach, mae mwy o bobl yn byw mewn cartrefi gofal ac yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain.

Argymhellir y bydd poblogaeth gyfredol cartrefi gofal nyrsio a chartrefi preswyl y DU o 450,000 yn cynyddu i 1,130,000 yn y 50 mlynedd nesaf. 1Diabetes UK (2010). Awgryma’r Good Clinical Practice Guidelines for Care Home Residents with Diabetes (2010): 5 .

Argymhellir y gall oddeutu 1 ym mhob 4 o breswylwyr cartrefi gofal fod yn dioddef o ddiabetes, ond mae nifer mewn cartrefi gofal sy’n dioddef o ddiabetes ond heb gael diagnosis 2Diabetes UK (2010). Awgryma’r Good Clinical Practice Guidelines for Care Home Residents with Diabetes (2010): 5 .

Awgryma’r Good Clinical Practice Guidelines for Care Home Residents with Diabetes (2010):

  • Dylai preswylwyr cartrefi gofal gael eu sgrinio am ddiabetes wrth iddynt gael eu derbyn a dylid ailadrodd hyn bob dwy flynedd
  • Dylai pob rheolwr cartref gofal drefnu hyfforddiant priodol sy’n benodol i ddiabetes
  • ar gyfer pob aelod o staff sy’n gofalu am breswylwyr sy’n dioddef o ddiabetes
  • Mae pobl sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n derbyn gofal mewn pa bynnag leoliad yn debygol iawn o ddioddef cymhlethdodau fasgwlaidd, yn fwy agored i heintiau, ac yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty, mewn cymhariaeth â phobl sy’n dioddef o ddiabetes sy’n dal i allu byw’n annibynnol.

Nod yr adnodd hwn yw:

  • cynnig addysg a gwybodaeth sylfaenol ynghylch diabetes
  • sicrhau gofal cyfartal i bawb sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n derbyn gofal
  • cefnogi’r rheini sy’n darparu gofal yn y cartref drwy ganllawiau ymarferol a chyngor
  • 1
    Diabetes UK (2010). Awgryma’r Good Clinical Practice Guidelines for Care Home Residents with Diabetes (2010): 5
  • 2
    Diabetes UK (2010). Awgryma’r Good Clinical Practice Guidelines for Care Home Residents with Diabetes (2010): 5