Monitro Glwcos

Canllawiau monitro glwcos

Canllawiau argymelledig yw’r rhain yn seiliedig ar arfer dda. Ni ddylai’r canllawiau hyn ddisodli canllawiau neu bolisïau sylfaenol. Dim ond y rheini sydd wedi’u hasesu ac sy’n gymwys ddylai monitro glwcos. Dylai’r cyfarpar a ddefnyddir i fonitro glwcos fod yn unol â’r mesuryddion argymelledig yn unol â mesuryddion a chyfarpar argymelledig Cymru gyfan. Dylai’r cyfarpar fodloni’r safon ofynnol a dylid ei ddefnyddio yn ôl canllawiau’r gweithgynhyrchwyr.

Prif ddiben monitro glwcos yw:

  • cadw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn ddiogel
  • monitro ac atal hypoglycemia a/neu hyperglycemia
  • cynnal lefelau glwcos i’r targedau sydd wedi’u cytuno ar gyfer yr unigolyn dan sylw
  • sicrhau bod triniaeth yn effeithiol
  • gwella rheolaeth diabetes i atal cymhlethdodau neu atal cymhlethdodau sy’n bodoli eisoes rhag gwaethygu.

Argymhellir monitro glwcos yn rheolaidd dan yr amgylchiadau canlynol (NICE 2020)1National Institute for Health and Care Excellence (NICE) (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.:

  • mae’r unigolyn yn cymryd inswlin
  • mae tystiolaeth o byliau hypoglycemig
  • mae’r unigolyn yn cymryd meddyginiaeth drwy’r geg a all gynyddu ei risg o hypoglycemia
  • mae’r unigolyn yn cymryd steroidau

Os yw unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn hunan-fonitro lefelau glwcos yn y gwaed, dylid cynnal asesiad blynyddol fan lleiaf, er mwyn asesu:

  • sgiliau hunan-fonitro’r unigolyn
  • ansawdd ac amlder y profion
  • gwirio bod yr unigolyn yn gwybod sut mae dehongli canlyniadau glwcos a pha gamau gweithredu i’w cymryd
  • effaith ar ansawdd bywyd yr unigolyn
  • budd parhaus i’r unigolyn
  • y cyfarpar a ddefnyddir (gan gynnwys bin offer miniog, mesurydd glwcos, dyfais tynnu gwaed)2National Institute for Health and Care Excellence (NICE) (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Ni ddylid gwneud profion glwcos oni bai bod yr unigolyn wedi cael addysg a hyfforddiant er mwyn gwneud hynny. Os cewch eich cyflogi fel gofalwr, dylech fod yn gwneud y weithred hon yn unol â’ch canllawiau sylfaenol.

Argymhellion amlder profion

Unigolyn diabetigAmlder y monitro
Pawb a dderbynnir i gartrefi gofal/nyrsioPrawf wrth dderbyn i gartref gofal/nyrsio
Inswlin unwaith y diwrnodMonitro cyn rhoi pigiad inswlin (unwaith mewn 24 awr)
Inswlin dwywaith y diwrnodMonitro cyn rhoi pigiad inswlin (o leiaf 2 brawf mewn 24 awr)
Inswlin pedair gwaith y diwrnodMonitro cyn rhoi pigiad inswlin (o leiaf 4 prawf mewn 24 awr)
Meddyginiaeth drwy'r geg gyda'r risg o hypoglycemia e.e. Gliclasid; Glibenclamid; Glimepirid; Glipisid; NateglinidMonitro o leiaf unwaith y diwrnod unrhyw adeg cyn bwyd (o leiaf 1 prawf mewn 24 awr)
SâlMonitro'n fwy rheolaidd (o leiaf 4 prawf bob dydd, yn cynnwys cyn bwyd a chyn mynd i'r gwely a phrofi yn ystod y nos os oes angen)
Hypoglycemia (llai na 4mmol/L)Trin yn ôl y canllawiau cenedlaethol sylfaenol neu argymelledig; monitro bob 10 – 15 munud nes bod y lefel wedi cyrraedd y targed cytunedig ar gyfer yr unigolyn dan sylw
Newidiadau yn nhriniaeth diabetes gyda risg o byliau hypo, e.e. Inswlin; Gliclasid etc.Monitro cyn bwyd a chyn mynd i'r gwely (pedwar prawf y diwrnod am o leiaf 3 diwrnod) nes bod y lefelau glwcos yn sefydlog, ac yna dilyn yr argymhellion neu gyfarwyddiadau'r arbenigwyr iechyd lleol

Addaswyd o Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA), 2013.
https://www.magonlinelibrary.com/doi/full/10.12968/bjon.2019.28.7.434#B18

  • 1
    National Institute for Health and Care Excellence (NICE) (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.
  • 2
    National Institute for Health and Care Excellence (NICE) (2020) Managing blood glucose in adults with type 2 diabetes. Chapter 4 NICE Pathways. Llundain: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.