Cymhlethdodau a rheolaeth diabetes

Yn yr adran hon, rydym am ddisgrifio a thrafod cymhlethdodau diabetes. Yna, byddwn yn trafod ac yn disgrifio sut caiff diabetes ei reoli i helpu i atal cymhlethdodau ac osgoi neu atal dirywiad pellach.

Mae rheoli ffordd o fyw yn gydran allweddol i reoli diabetes a dylid ei ystyried yn rhan o asesiad gofal ac fel rhan o adolygiad blynyddol diabetes.

Dylai asesiad gofal diabetes fod yn seiliedig ar y prosesau gofal a argymhellir gan NICE a dylai gynnwys y canlynol fel rhan o asesiad cyffredinol:

  • problemau seicolegol a gwybyddol
  • adolygiad deiet a maeth
  • meddyginiaethau a ddefnyddir i reoli diabetes
  • monitro glwcos/cetonau
  • lefelau gweithgaredd
  • cymeriant alcohol
1Diabetes UK (2021) ar gael yn: Other types of diabetes Diabetes UK https://www.diabetes.org.uk/professionals/resources/shared-practice/diabetes-care-in-care-homes