Rhoi Diagnosis o Ddiabetes

Os ydych yn amau bod rhywun yn ddiabetig yn seiliedig ar ei symptomau, dylech gysylltu â’r meddyg teulu sy’n debygol o gynnal asesiad a gwneud profion gwaed i gadarnhau’r diagnosis.

Awgryma’r Good Practice Clinical Guidelines for Diabetes (2010) y dylai pob preswyliwr cartrefi gofal gael eu sgrinio am ddiabetes wrth iddynt gael eu derbyn a dylid ailadrodd hyn bob dwy flynedd. Gellir gwneud hyn drwy’r meddyg teulu.

Gwyddom fod y risg o ddatblygu diabetes math 2 yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hŷn, yn enwedig os oes ganddo ffactorau risg eraill, h.y. ethnigrwydd, byw bywyd eisteddog, magu pwysau a/neu ordewdra a deiet gwael, e.e. deiet braster uchel a/neu garbohydradau uchel. Gwyddom hefyd fod ffactorau economaidd-gymdeithasol yn cyfrannu at ffactorau risg, e.e. amodau gwael yn y cartref, adnoddau ariannol prin a meddyginiaethau penodol, e.e. steroidau; meddyginiaethau gwrthseicotig a all gynyddu’r risg o ddatblygu diabetes math 2.

Ethnigrwydd a Diabetes

Nid yw’n eglur sut mae ethnigrwydd yn cynyddu’r risg o ddiabetes, ond yn ôl tystiolaeth mae pobl o gefndiroedd Du Affricanaidd, Caribïaidd Affricanaidd a De Asia mewn risg o ddatblygu diabetes math 2 o 25 oed mewn cymhariaeth â phoblogaeth groenwyn y mae’r risg iddynt yn cynyddu o 40 oed. Gwyddys hefyd yn y boblogaeth Asiaidd eu bod yn fwy tueddol o ddatblygu ymwrthedd inswlin (yr inswlin ddim yn gweithio’n effeithiol) yn ieuengach10.

Pwysig yw deall beth yw symptomau diabetes oherwydd bod modd eu methu.

Mae’r gallu i adnabod symptomau diabetes a gwybod sut y rhoddir diagnosis ohono yn bwysig iawn wrth reoli pobl mewn cartrefi gofal ac yn eu cartrefi eu hunain, oherwydd mae’n bosibl na fyddant yn gallu dweud wrthych. Os ydych yn amau diabetes, dywedwch wrth feddyg teulu neu ddarparwr gofal iechyd am y symptomau.

Am wybodaeth ynghylch y profion gwaed a
ddefnyddir i roi diagnosis o ddiabetes, cliciwch
ar y ddolen hon:

05 Rhoi Diagnosis o Ddiabetes

Profi eich Gwybodaeth

1. Pe byddech yn amau bod gan rywun ddiabetes, a fyddech chi'n:
2. Pam ei bod hi'n bwysig adnabod symptomau diabetes?