Bwyd a maeth ar gyfer pobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes

Gall pobl hŷn fod ag amrywiaeth o anghenion deietegol. Mae pobl sy’n dioddef o ddiabetes, sy’n iach a chyda chwant bwyd da yn gallu mwynhau deiet iachus, cytbwys (cyfeiriwch at adran Canllaw Bwyta’n Dda).

Mae nifer o bobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yn fwy tebygol o gael anghenion cefnogaeth a/neu gyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu cymeriant bwyd a diod, e.e. colli pwysau, problemau llyncu a all fod angen deietau gyda gweadau bwyd wedi’u haddasu, hwyliau isel, iselder a dementia. Golyga hyn ei bod yn bwysicach fyth sicrhau bod y bwyd a diod a ddarperir yn flasus, yn faethlon ac yn hygyrch, er mwyn cynnal eu hiechyd a’u llesiant.

  • Mae prydau bwyd, diodydd a byrbrydau (os oes eu hangen) yn rhoi strwythur i’r diwrnod
  • Mae’n hanfodol sicrhau bod yr unigolyn yn yfed digon. Rhowch ddiod yn rheolaidd yn ystod y diwrnod, ac annog yr unigolyn i yfed, e.e. dŵr, te, coffi, cordial a diodydd meddal cloriau isel/dim siwgr ychwanegol, e.e. deiet/sero etc

Nid oes modd mwyach labelu bwyd yn rhai diabetig neu’n addas ar gyfer pobl ddiabetig, mae’n bosibl eu bod wedi’u labelu’n ‘llai o siwgr’ neu ‘dim siwgr ychwanegol’ y gellir eu defnyddio fel rhan o ddeiet cytbwys, (gweler yr adran Labelu Bwyd).

Cydbwyso Gofynion Maethol drwy gydol y Diwrnod

Gall pawb fwynhau bwyta’n iach. Mae bwyta’n iach pan mae gan rywun ddiabetes yr un fath â bwyta’n iach ar gyfer pobl nad ydynt yn ddiabetig. Mae bwyd a maeth, yn ogystal â meddyginiaeth yn ôl yr angen a gweithgareddau, yn rhan annatod o reoli diabetes. Dylai bod pobl sy’n dioddef o ddiabetes yn gallu parhau i fwynhau amrywiaeth eang o fwydydd.

Defnyddir y Canllaw Bwyta’n Dda ledled y DU i helpu pawb ddeall beth yw’r cydbwysedd delfrydol ar gyfer bwydydd ar gyfer deiet iachus, ac mae wedi’i anelu at blant dros 5 oed, pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn sy’n dda eu hiechyd. Mae’n hyrwyddo deiet cytbwys, iachus gyda llawer o ffrwythau a llysiau, grawnfwydydd a grawn ffeibrog, braster, siwgr ac sy’n isel mewn halen er mwyn helpu i atal nifer o gyflyrau sydd ynghlwm wrth ddeiet gwael.

Faint a pha fath o fwydydd i’w cael yn ystod y dydd

I’r rheini sydd â chwant bwyd da, mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn ein hannog ni i ddewis amrywiaeth o fwydydd o’r 5 grŵp bwyd er mwyn ein helpu ni i gael yr ystod eang o faetholion sydd eu hangen ar ein cyrff i gadw’n iach.

Efallai fod y rheini nad oes ganddynt chwant bwyd da yn gweld prydau bwyd a byrbrydau llai, mwy aml yn haws eu rheoli. Mae’n bosibl y bydd angen cydbwysedd gwahanol o’r grwpiau bwyd hyn, gan gynnwys mwy o fwydydd uchel mewn calorïau. Cyfeiriwch at yr adran isod ar gyfer profion sgrinio MUST a rheoli’r risg o ddiffyg maeth. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â’r gwasanaeth Maeth a Deietig lleol.

Dyma’r pum grŵp bwyd:

  • Tawts, bara, reis, pasta a bwydydd eraill llawn startsh
  • Ffrwythau a llysiau
  • Ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill
  • Cynnyrch llaeth a dewisiadau eraill
  • Olewau a thaeniadau

Os ydych yn gweithio mewn cartref gofal, mae gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch anghenion maeth a hydradu a sut i gynllunio prydau bwyd ar gyfer preswylwyr, gan gynnwys y rheini sy’n dioddef o ddiabetes – Cyfeiriwch at Ganllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Pobl Hŷn mewn Cartrefi Gofal – Canllawiau Arfer Orau gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael yma: Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal | LLYW.CYMRU.

Tatws, bara, reis, pasta a bwydydd eraill llawn startsh (yn cynnwys carbohydradau llawn startsh)

1-2 ddogn fesul pryd o fwyd – yn dibynnu ar bwysau’r corff a gweithgareddau corfforol. Ceisiwch gynnwys fersiynau grawn cyflawn pan mae’n bosibl.

Mae dogn yn gyfartal â 2 – 3 llwy fwrdd o rawnfwyd brecwast; 1 tafell o fara; 2-3 llwy de o reis wedi’i goginio, pasta, tatws stwnsh; 2 daten newydd; 2-3 chracer/bara cras; 5 – 8 sglodyn.

Ffrwythau a llysiau

Maent yn llawn fitaminau, mwynau a ffibr. Anelwch at gynnig o leiaf 5 dogn y diwrnod. Dogn yw 2-3 llwy fwrdd o lysiau neu 1 ffrwyth e.e. 1 afal/gellygen/oren/llond llaw o rawnwin/llwy fwrdd gwastad o ffrwythau sych/gwydraid bach o sudd ffrwythau.

Cewch roi unrhyw ffrwyth, ac mae’r cwbl yn cynnwys siwgrau naturiol sy’n rhyddhau egni yn araf.

Cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein nad ydynt yn gynnyrch llaeth

Maent yn bwysig i adfer cyhyrau’r corff a gallant helpu i gynnal màs cyhyrau ac felly lleihau eiddilwch. Anelwch at 2 – 3 dogn bob diwrnod.

Dogn yw: 2 – 3 owns (50-80g) o gig coch, cyw iâr; 4 – 5 owns (120-150g) o bysgod; 2 wŷ; tun bach o ffa/3 llwy fwrdd o godlysiau/ffacbys.

Llaeth a chynnyrch llaeth

Mae’r grŵp hwn yn bwysig ar gyfer iechyd yr esgyrn, ac ar wahân i gaws, maent yn cynnwys siwgrau naturiol sy’n rhyddhau egni yn araf. Anelwch at 3 dogn bob diwrnod.

Dogn yw: 1/3-peint o laeth; Potyn bach o iogwrt/fromage frais; 2 lwy fwrdd o gaws colfran; 1½ owns (30g) o gaws (maint bocs matsis bach); dogn bach o gwstard (150ml).

Olewau a Thaeniadau

Dogn yw 1 – 2 lwy de o olew/marjarîn/menyn.

Bwydydd a diodydd sy’n uchel mewn braster a/neu siwgr

Mae’r rhain yn cynnwys cynnyrch fel siocled, teisennau, bisgedi, diodydd meddal llawn siwgr, menyn a hufen iâ. Nid oes angen bwydydd fel hyn yn y deiet ac felly, os cânt eu cynnwys, dylid gwneud hynny yn anaml ac mewn symiau bach. Mae bwydydd a diodydd sy’n llawn braster a siwgr yn cynnwys llawer o egni, yn enwedig mewn dognau mawr. Mae’n bosibl bod y rhain yn cael eu cynnwys os yw’r preswyliwr wedi’i adnabod o fod mewn risg o ddiffyg maeth (cyfeiriwch at Gynllun Gofal Maeth).

Dogn yw 1 – 2 lwy de o mayonnaise/dresin salad; 1 sgŵp o hufen iâ/1 llwy de o hufen; 1 bar bach o siocled/bisged siocled; Paced bach o greision; 2 lwy de o siwgr/jam/mel.

Pa fwydydd sy’n effeithio ar lefelau glwcos yn y gwaed?

Mae pob bwyd carbohydrad yn torri i lawr yn glwcos, sydd wedyn yn effeithio ar lefelau glwcos yn y gwaed. Mae’r rhain yn cynnwys carbohydradau llawn startsh (y grŵp bara, tatws, reis); y siwgrau ‘ychwanegol’ o’r grŵp brasterau a siwgrau; a’r siwgrau naturiol o’r grŵp llaeth a ffrwythau. Mae deiet iachus, cytbwys yn helpu i reoli pwysau a rheoli lefelau glwcos yn y gwaed.

Nodyn ymarferol:
Dylai fod bwydydd llawn startsh yn cyfrif oddeutu traean o ddeiet bob dydd
• Dylai fod bwydydd llawn startsh yn cyfrif oddeutu traean o ddeiet bob dydd
• Cynhwyswch opsiynau grawn cyflawn a ffibr uchel
• Os yw lefelau glwcos yn y gwaed yn uchel, ystyriwch ddognau ac ansawdd

Gofal Maethol ar gyfer Pobl sy’n dioddef o Ddiabetes ac sydd mewn Risg o Ddiffyg Maeth

Dylid sgrinio’n fisol pob preswylydd Cartref Gofal ac oedolion hŷn sy’n derbyn gofal yn y cartref er mwyn adnabod eu risg o ddiffyg maeth ac i sicrhau bod cynlluniau gofal priodol ar waith. Mae MUST yn adnodd sgrinio dilys ar gyfer sgrinio ledled Cymru.

I’r rheini sydd wedi’u hadnabod mewn risg ganolig neu uchel – dylid ymgymryd â dull gweithredu “bwyd yn gyntaf”, ac i’r rheini sydd wedi’u hadnabod mewn risg uchel, ystyriwch atgyfeirio at y dietegydd.

Strategaethau i’w dilyn:

Adnodd Sgrinio Cyffredinol am Ddiffyg Maeth (Malnutrition Universal Screening Tool (MUST))

RHAID Sgôrio 0 – Risg Isel

Nodyn ymarferol: Gordewdra
Gall fod yn anodd iawn i bobl golli pwysau mewn cartref gofal, yn enwedig os na allant symud gystal. Mae empathi a dealltwriaeth yn allweddol, gall codi’r mater yn sensitif ac egluro buddion colli pwysau fod o gymorth. Gall gweithgarwch corfforol (yn dibynnu ar allu) ynghyd â lleihau y calorïau fymryn helpu i naill ai gynnal pwysau neu golli ychydig o bwysau. Cynigiwch ddiodydd isel mewn siwgr/dim siwgr ychwanegol. Mae hon yn ffordd rwydd o leihau’r cymeriant carbohydradau cyffredinol.

RHAID Sgôrio 1 – Risg Ganolig

Sgrinio eto ar ôl mis:

  1. Os yw’r sgôr wedi gwella, parhewch â’r cynllun am fis arall, yna lleihewch yn raddol faint ydych chi’n cyfnerthu’r bwyd.
  2. Os na welir unrhyw newid neu os yw’n gwaethygu, ystyriwch driniaeth arbenigol isod.
  3. Os yw’n gwaethygu, dilynwch y cynllun gofal maeth RISG UCHEL
  • Asesiad risg iechyd y geg
  • Darparu/mewnosod cyngor Bwyd Da Gyntaf
  • Darparu byrbrydau rhwng prydau bwyd a diodydd maethlon cartref
  • Sicrhau bod unrhyw gymorth sydd ei angen ar gyfer bwyta ac yfed yn cael ei ddarparu
  • Sicrhau bod unrhyw argymhellion yn ymwneud ag addasu gweadau bwyd a hylif yn cael eu dilyn ac y dilynir unrhyw gyngor penodol ar gyfer bwyta neu yfed, h.y. ystum wrth fwyta ar gyfer llyncu
  • Pwyso bob wythnos (os na ellir pwyso, defnyddiwch Gylchedd Canol Rhan Uchaf y Fraich).
  • Defnyddio siartiau bwyd a hylif i gofnodi cymeriant bwyd a hylif am 3 diwrnod. Mewn lleoliadau preswyl, defnyddiwch siartiau cymeriant ac allbwn bwyd dyddiol ac wythnosol Cymru gyfan.

RHAID Sgôrio mwy na 2 – RISG UCHEL

Os nad oes gwelliant, ystyriwch yr isod:

Atgyfeiriwch at eich adran dieteg leol am asesiad a chyngor mwy manwl.

Dilynwch y canllawiau lleol neu gofynnwch am bresgripsiwn o ychwanegiadau maeth drwy’r geg, e.e. 2 y diwrnod am 4 – 12 wythnos*.

Noder na fydd yr ychwanegiadau hyn yn addas ar gyfer cleifion sydd â chlefyd cronig yn yr arennau camau 4 a 5).

Awgrymiadau ymarferol i gefnogi pobl sydd â diabetes ac mewn risg o ddiffyg maeth:

  • Cynlluniwch ar gyfer tri phryd o fwyd y diwrnod. Ceisiwch osgoi methu prydau bwyd a sicrhewch fod gennych amser ar gyfer brecwast, cinio a phryd gyda’r nos yn ystod y diwrnod. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i reoli chwant bwyd ond hefyd bydd yn helpu i reoli lefelau glwcos yn y gwaed
  • Cynhwyswch garbohydradau llawn startsh gyda phob pryd o fwyd: mae’r gyfran a fwyteir yn bwysig i reoli lefelau glwcos
  • Cynigiwch fyrbrydau uchel mewn protein, megis caws a bisgedi a/neu ddiodydd llawn maeth, e.e. llaeth
  • Os yw’r lefelau glwcos yn uwch, PEIDIWCH Â RHOI’R GORAU i roi ychwanegiadau maeth drwy’r geg, os ydynt wedi’u presgripsiynu
  • Siaradwch â’r meddyg teulu neu’r Dietegydd

Cwestiynau Cyffredin

Beth ddylwn i ei wneud os yw unigolyn hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yn bwyta’n wael ac yn colli pwysau?


Bydd ymgymryd â phrawf sgrinio MUST yn rheolaidd yn adnabod unigolion sydd mewn risg o ddiffyg maeth. Mae nifer o fesurau ar waith i’r rheini sydd wedi’u hadnabod mewn risg ganolig. Ystyriwch ofyn i’r meddyg teulu atgyfeirio’r unigolyn at yr adran ddieteg leol am asesiad a chyngor os yw unigolyn mewn risg uwch. Os allwch chi, ewch ati i fonitro lefelau glwcos yn y gwaed er mwyn osgoi hypoglycemia, yn enwedig ymhlith y rheini sy’n cymryd meddyginiaethau gel gliclasid ac inswlin. Gofynnwch am adolygiad gan nyrsys diabetes cymunedol neu’r meddyg teulu os yw’r lefel glwcos yn y gwaed yn mynd yn isel neu’n uchel iawn.

Beth ddylwn i ei wneud os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn cael problemau llyncu?


Gofynnwch am gymorth gan y meddyg teulu a all atgyfeirio’r unigolyn at yr adran lleferydd ac iaith am asesiad llyncu. Efallai y bydd angen addasu gweadau bwyd a/neu dewychu hylifau ar gyfer pobl sy’n cael trafferthion llyncu. Bydd hyn yn eu helpu i reoli bwyd a diodydd yn ddiogel. Dylai Cartrefi Gofal/Nyrsio gyfeirio at ddisgrifiad addasu gweadau’r IDDSI – cyfeiriwch at Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal l LLYW.CYMRU. https://gov.wales/food-and-nutrition-guidance-older-people-care-homes

Beth ddylwn i ei wneud os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn gwrthod cymryd ei feddyginiaeth diabetes, megis ei inswlin?


Os ydych yn ofalwr, cyfeiriwch yn gyntaf at y brif nyrs (os ydych mewn cartref gofal/nyrsio). Gofynnwch am adolygiad brys gan y nyrsys diabetes cymunedol neu’r meddyg teulu.

Beth ddylwn i ei wneud os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn gwrthod cymryd yr ychwanegiadau maeth sydd wedi’u presgrispsiynu iddo?


Gall rhai unigolion gael blinder blas os ydynt yn cymryd ychwanegiadau maeth ar bresgripsiwn am gyfnod estynedig. Mae amrywiaeth o ychwanegiadau maeth ar gael a ffyrdd y gallwch ddarparu amrywiaeth o ddiodydd neu fyrbrydau addas sy’n llawn maeth. Os yw’r unigolyn dan ofal dietegydd cymunedol, gofynnwch am adolygiad a rhagor o gyngor, fel arall siaradwch â’r meddyg teulu.

A ddylai pobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes fwyta ychydig yn aml?


Nid oes angen byrbrydau ychwanegol bob tro ar bobl hŷn iach diabetig nad ydynt mewn risg o ddiffyg maeth ac yn aml gallant fwynhau deiet cytbwys, iach yn cynnwys prydau bwyd rheolaidd. Efallai fod angen prydau bwyd llai, mwy aml neu fyrbrydau/swper ychwanegol ar rai unigolion, megis y rheini sydd â chwant bwyd gwael neu nad ydynt yn bwyta llawer, a’r rheini sydd mewn risg o ddiffyg maeth neu sy’n cymryd meddyginiaethau penodol.

A all unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes gael siwgr yn ei ddeiet?


Caiff, gall deiet iach gynnwys ychydig o siwgr. Nid yw’n cael ei ystyried yn ddeiet heb siwgr. Ceir siwgrau naturiol mewn ffrwythau a chynhyrchion llaeth ac mae’r bwydydd hyn yn cynnig fitaminau, mwynau a ffibrau hefyd. Cyfyngwch siwgrau ychwanegol o fwydydd megis teisenni, bisgedi, siocled a diodydd llawn siwgr. Gall y bwydydd hyn gynyddu lefelau glwcos a gall achosi i’r unigolyn fagu pwysau diangen os yw’n bwyta dognau mawr. Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes wedi’i adnabod i fod mewn risg o ddiffyg maeth, gellir cynnwys bwydydd sy’n uchel mewn siwgr fel rhan o’u cynllun gofal maeth.

Faint o ffrwythau y dylai unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes ei fwyta bob diwrnod?


Gellir cynnwys cydbwysedd da o ffrwythau a llysiau bob diwrnod. Wedi dweud hynny, gall bwyta cyfran fawr o ffrwythau ar yr un pryd achosi lefelau glwcos uchel yn y gwaed. Er mwyn osgoi lefelau glwcos uwch, dylai’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes gael ei annog i fwyta un dogn o ffrwythau ar y tro a rhannu dognau eraill ar adegau gwahanol o’r diwrnod.

A ddylai pobl sy’n dioddef o ddiabetes gael amrywiaethau o gynhyrchion sy’n cynnwys llai o siwgr neu ddim siwgr ychwanegol, megis siocled neu jam?


Nid oes modd mwyach labelu bwydydd yn rhai diabetig neu’n addas ar gyfer pobl ddiabetig, ond ceir eu labelu’n ‘Dim siwgr ychwanegol’ y gellir eu defnyddio fel rhan o ddeiet cytbwys, (gweler yr adran Labelu Bwyd). Gellir defnyddio llai o siocled neu jam arferol. Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes wedi’i adnabod i fod mewn risg o ddiffyg maeth, gellir cynnwys bwydydd sy’n uwch mewn siwgr fel rhan o’i gynllun gofal maeth.

A ddylai pobl sy’n dioddef o ddiabetes ddefnyddio meluswr yn hytrach na siwgr?


Nid yw meluswyr yn effeithio lefelau glwcos yn y gwaed a chânt eu defnyddio’n aml yn lle siwgr. Gellir eu cynnwys os ydyw’n well gan breswylwyr eu defnyddio.

A ddylid cynnig pwdin i bobl ddiabetig ar ôl prydau bwyd?


Mae pwdinau yn ychwanegu carbohydrad at bryd bwyd a all fod yn ofynnol os oes gan glaf chwant bwyd gwael neu os ydyw mewn risg o ddiffyg maeth. Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn bwyta’n dda ac nad ydyw mewn risg o ddiffyg maeth, gall pwdinau gynyddu lefelau glwcos yn y gwaed a’i achosi i fagu pwysau diangen. Anogwch yr unigolyn i wneud penderfyniadau mwy iachus mewn perthynas â phwdin neu gynnig dognau llai yn llai aml. Nid oes angen gwneud pwdinau ar wahân gyda meluswyr ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddiabetes.

Beth ddylwn i ei wneud os yw teulu/ymwelwyr yr unigolyn sy’n derbyn gofal yn dod â diodydd/byrbrydau llawn siwgr i mewn a bod y rheini yn achosi lefelau glwcos uchel yn y gwaed?


Weithiau, gall fod yn brofiad anodd ymwneud ag ymwelwyr sy’n hoffi dod â bwydydd a diodydd ychwanegol i’w perthnasau. Nid yw nifer o ymwelwyr yn ymwybodol y gall bwydydd neu ddiodydd penodol effeithio ar ddiabetes ac achosi lefelau glwcos uchel. Os allwch chi, siaradwch a’r teulu/ymwelwyr a chynigiwch rai opsiynau eraill neu efallai syniadau ar gyfer eitemau nad ydynt yn fwyd nac yn ddiod a fyddai’n rhoi gwên ar wyneb yr unigolyn, megis cylchgrawn neu flodau.

Sut allaf i helpu’r rheini sy’n dioddef o ddiabetes i fod yn fwy heini?


Mae unrhyw weithgaredd sy’n annog pobl ddiabetig sy’n gallu gwneud, i symud o gwmpas fwy a threulio llai o amser yn eistedd o fudd. Anogwch y rhai sy’n gallu gwneud i gerdded at yr ardaloedd bwyta neu ymlacio ar gyfer prydau bwyd a gweithgareddau, neu dreulio amser yn yr ardd yn yr awyr agored (os oes lle felly ar gael).