Cymhlethdodau Tymor Byr Diabetes

Hypoglycemia (hypo – lefelau glwcos isel)

Mae hyn yn digwydd pan mae lefel y glwcos yn y gwaed yn llai na 4.0 mmol/l a dylid bob amser ei drin gyda glwcos sy’n gweithio’n gyflym er mwyn atal cymhlethdodau megis cwympo; gwaethygu cyflyrau eraill; ffitio neu lewygu.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae angen glwcos ar eich ymennydd er mwyn iddo weithio’n iawn. Os yw’r lefel glwcos yn gostwng, bydd yn effeithio ar ymddygiad. Mae’n bosibl na fydd yr unigolyn bob amser yn gallu egluro ei symptomau i chi na dweud wrthych ei fod yn cael pwl ‘hypo’, felly efallai fod angen gosod ei darged glwcos mewn ystod ychydig yn uwch er mwyn lleihau ei risg o bwl o hypo.

Gall hypoglycemia arwain at:

  • gwympo
  • arhythmia neu angina/poen yn y frest,
  • ffitio a choma os na chaiff ei drin yn gyflym a phriodol

Gall newid yn ymddygiad neu ‘edrychiad’ yr unigolyn eich hysbysu bod ei lefelau glwcos yn disgyn. Y flaenoriaeth yw sicrhau bod yr unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn ddiogel, a bod ystod y targed glwcos wedi’i theilwra ac yn cael ei dogfennu fel rhan o’i gynllun gofal.

Pwy sydd mewn risg o gael pwl o hypo?

Pobl sy’n dioddef o ddiabetes ar therapi inswlin a/neu dabledi e.e. gliclasid:

  • sydd o bosibl wedi colli eu hymwybyddiaeth o arwyddion pyliau hypo
  • sydd wedi newid eu meddyginiaethau yn ddiweddar
  • sydd â chwant bwyd gwael neu newid yn eu deiet/cynllun bwyd (gall fod yn breswyliwr newydd sy’n ei chael hi’n anodd cael ei draed oddi tano a’r rheini sy’n gwrthod bwyta neu nad ydynt yn gallu bwyta)
  • sy’n sâl ar hyn o bryd
  • sydd â chlefyd cronig yr arennau
  • sydd â chlefyd cynhenid y galon
  • sydd â chlefyd yr afu
  • yn heneiddio neu’n dioddef o broblemau iechyd meddwl (sydd efallai yn methu cyfathrebu eu symptomau)

Diffyg Dealltwriaeth o Hypoglycemia
Mae’n bosibl i rai pobl beidio â phrofi unrhyw symptomau neu fethu â dweud wrthych eu bod yn profi symptomau, ac felly gall fod yn gyfrifoldeb arnoch chi fel eu gofalwyr i gadw llygad. Os ydych yn amau ​​nad yw rhywun yr ydych yn gofalu amdano yn ymwybodol bod ganddo symptomau, rhowch wybod i’r meddyg teulu neu’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arferol.

Unrhyw un sydd angen inswlin neu dabledi penodol i leihau glwcos o’r enw Swlffonilwrea, (e.e.

  • glicasid
  • glimepirid
  • glibenclamid
  • glipisid neu glinides (e.e. repaglinid)

sydd mewn risg uwch o hypoglycemia, yn enwedig os yw ei batrwm bwyta arferol yn cael ei addasu oherwydd salwch acíwt neu gyfog. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o bwy a all fod mewn risg o gael pwl o ‘hypo’ er mwyn i chi allu ceisio atal hynny rhag digwydd.

Gall pwl hypoglycemig fod yn brofiad eithaf dychrynllyd i’r unigolyn, yn ogystal â’r sawl sy’n gweld digwyddiad o’r fath. Felly, gall bod yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau a gallu adnabod pwy sydd mewn risg eich helpu chi i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd.

Beth yw achosion hypoglycemia?

Pobl sy’n dioddef o ddiabetes ar therapi inswlin a/neu dabledi e.e. gliclasid:

  • wedi methu pryd neu fyrbryd neu’n hwyr yn bwyta
  • chwant bwyd gwael, teimlo’n sâl
  • heb gymryd digon o garbohydrad yn y pryd o fwyd diwethaf
  • gormod o inswlin (neu dabledi diabetes fel Gliclasid)
  • gwneud mwy o weithgaredd na’r arfer (heb gael carbohydrad ychwanegol)
  • gormod o alcohol neu yfed alcohol ar stumog wag
  • tywydd poeth iawn sy’n gallu cynyddu cyflymder amsugno inswlin

Os yw rhywun yn cael pwl hypoglycemig, y peth pwysig yw ei drin. Ar ôl ei drin ac ar ôl sicrhau bod yr unigolyn yn ddiogel, mae angen i chi feddwl beth allai fod wedi ei achosi er mwyn i chi allu ei atal rhag digwydd eto.

Beth yw symptomau hypoglycemia?

  • blinder/syrthni/cysglyd
  • pinnau mân yn y gwefusau
  • llwyd neu newid yn ei liw
  • teimlo’n anarferol o lwglyd
  • newid mewn hwyliau/ymddygiad/dryswch
  • chwysu
  • crychguriadau
  • lleferydd aneglur
  • ddim yn ymateb i gwestiynau/gorchmynion
  • cydlyniant gwael a/neu’n ansad ar ei draed
  • teimlo’n benysgafn/chwil

Gall hypoglycemia arwain at gwympiadau, arhythmia neu angina/poen yn y frest a choma os na chaiff ei reoli’n gyflym ac yn briodol.

Rheoli hypoglycemia (siwgr isel yn y gwaed, llai na 4mmol/L)

YSGAFN
Yn ymwybodol ac yn gallu
llyncu
CYMEDROL
Yn ymwybodol ac yn gallu llyncu, ond angen cymorth
DIFRIFOL
Yn anymwybodol, ddim yn gallu llyncu
Yn cael ffitiau o bosibl
Step 1
Rhowch 20g o
glwcos sy'n gweithio'n gyflym

Dewiswch 1 o'r
triniaethau argymelledig isod:
6 x tabled decstros*
5 jelly baby mawr
200ml sudd oren pur esmwyth (carton bach)
60mls Sudd codi
*gellir ei doddi mewn ychydig bach
o ddŵr oer.
Rhowch 20g o
glwcos sy'n gweithio'n gyflym ar ffurf:
2 diwb o jel glwcos
(10g o glwcos fesul tiwb)
Sut i'w roi
Gwasgwch y jel i'r geg rhwng y dannedd a'r deintgig ar yr ochr isaf y tu mewn i'r bochau.
Galwch am gymorth,
gwiriwch y bibell wynt
a Ffoniwch 999
Rhowch 1mg o bigiad mewngyhyrol Glwcagon dim ond os ydych wedi'ch hyfforddi ac yn gymwys i wneud hynny ac os yw wedi'i bresgripsiynu
Os na allwch roi glwcagon, neu os nad yw'r preswyliwr yn ymateb i driniaeth
Rhowch y preswyliwr yn yr ystum adfer nes bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd
Step 2
Arhoswch 15 munud cyn gwirio'r lefelau glwcos eto
Os yw'r lefelau glwcos yn dal i fod yn llai na 4.0mmols/L, neu os nad oes unrhyw welliant corfforol; GWNEWCH GAM 1 ETO
Gallwch wneud CAM 1 hyd at deirgwaith, OND os nad oes gwelliant, neu os yw'r cyflwr yn gwaethygu, GALWCH 999 am gymorth brys
Gallwch wirio lefelau glwcos y gwaed eto wedi 10 munud ar ôl rhoi'r glwcagon
Step 3
Pan mae'r pwl HYPO wedi'i drin yn llwyddiannus, rhowch garbohydrad llawn startsh sy'n gweithio'n arafach i'r unigolyn bob tro, megis: brechdan, banana ganolig, 2 fisged, gwydr o laeth 200ml, neu bryd o fwyd, os ydyw'n amser am bryd. Pan mae'r pwl hypo wedi'i ddatrys, nodwch eich camau gweithredu.

YMCHWILIWCH I ACHOSION PYLIAU HYPO BOB TRO. Os nad oes achos amlwg, neu os oes dau neu dri o byliau, cysylltwch â'r meddyg teulu neu'r Tîm Diabetes Cymunedol, os yw hynny'n briodol, er mwyn adolygu'r feddyginiaeth.
1Addaswyd gyda chaniatâd o Diabetes Monitoring Plans for Nursing Homes devised by Nicola Hewer CDSN Education Practitioner C&V UHB 2021, Addaswyd o A Covid-19 Response Action – Diabetes Management in Care Homes. A National Stakeholders Covid-19 Response Group Interim Guidance. Covid-19 and Diabetes: Interim Care Home Guidance (28th April 2020) National Stakeholders Writing Group and Contributors Professor Alan Sinclair (Co-Chair), Professor Ketan Dhatariya (Co-Chair), Olivia Burr, Dr Dinesh Nagi, Professor Partha Kar, David Jones, Dr Philip Newland-Jones, Dr Kath Higgins, Dr Mayank Patel, Dr Ahmed Abdelhafiz, Dr David Hopkins, Dan Howarth, Catherine Gooday. Ar gael yn: Covid-19-and-Diabetes-Care-Home-Guidance-28042020.pdf (abcd. care)

Cofiwch, os nad yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn gwella,dylech gysylltu â’r meddyg teulu neu’r gwasanaeth y tu allan i oriau os yw’n briodol, neu alw 999 am gymorth.

Os ydych chi’n poeni bod rhywun yr ydych chi’n gofalu amdano sy’n dioddef o ddiabetes mewn risg uwch o hypoglycemia, dylech gysylltu â’r meddyg teulu neu’r arbenigwr gofal iechyd i adolygu’r driniaeth er mwyn lleihau’r risg o byliau hypoglycemig.

Hyperglycemia – (lefelau glwcos uchel)

Hyperglycemia yw’r term meddygol a ddefnyddir ar gyfer lefelau glwcos uchel. Mae hyn yn digwydd pan nad oes digon o inswlin yn cylchdroi yn y corff, neu pan mae gan y corff ymwrthedd i inswlin, ac mae glwcos yn aros yn y gwaed ac yn methu â chyrraedd y celloedd lle mae ei angen fel ffynhonnell egni2American Diabetes Association (2020) Approach to individualised glycaemic targets. Arlington County, Virginia, United States: American Diabetes Association.

Pam mae hyn yn bwysig?

Gall lefelau glwcos uchel gynyddu’r risg o heintiau ac oedi’r broses wella, e.e. bydd pobl yn fwy agored i heintiau rheolaidd er eu bod yn cael triniaeth ac os oes ganddynt gyflwr croen neu glwyf byddai hynny’n cymryd llawer hirach i wella a gall waethygu ymhellach. Gall hyperglycemia hefyd arwain at groen sych a dadhydradu, a all arwain at ddryswch, deliriwm neu gwympo.

Gall lefelau glwcos uchel am gyfnodau estynedig arwain at nifer o gymhlethdodau sy’n peryglu bywyd. Felly, i atal cymhlethdodau posibl, mae’n hanfodol bod lefelau glwcos yn y gwaed yn cael eu rheoli’n briodol3Mouri M; Badireddy M (2021) Hyperglycaemia. NVBI Bookshelf. A service of the National Library of Medicine, National Institutes of Health https://www.ncbi.nlm.nih.gov/books/NBK430900.

Os ydych yn gofalu am rywun sy’n dioddef o ddiabetes a bod ganddo lefelau glwcos uwch ond nad yw’n ymateb i driniaeth, rhaid i chi gysylltu â’r meddyg teulu neu arbenigwr gofal iechyd arferol.

Pwy sydd mewn risg o gael hyperglycemia?

  • pobl sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n sâl ar hyn o bryd, yn enwedig os oes ganddo wres neu haint
  • gall straen gynyddu lefelau glwcos
  • unrhyw newidiadau yn eu meddyginiaeth
  • y rheini sydd heb gael adolygiad meddyginiaeth ers peth amser
  • pobl ar therapi steroidau
  • y rheini sydd â chyflyrau cronig eraill
  • pobl sy’n ordew, dros eu pwysau neu wedi magu pwysau yn gyflym
  • y rheini sy’n cymryd meddyginiaethau gwrthseicotig e.e. Risperidon, Olansapin etc.
  • y rheini sy’n cael trafferth llyncu neu sydd efallai yn methu â goddef eu meddyginiaeth
  • pobl nad yw eu corff yn dda iawn am amsugno inswlin oherwydd lympiau caled neu feddal yn safle’r pigiad a elwir yn lipotroffi
  • unrhyw newidiadau yn eu deiet a/neu lefelau gweithgaredd

Mae’n debygol y bydd rhywun sy’n dioddef o ddiabetes yn cael pyliau hyperglycemia ar ryw adeg yn ei fywyd. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn gallu adnabod ac adrodd y symptomau i’w ddarparwr gofal iechyd.

Ni ddylai pyliau achlysurol o hyperglycemia fod yn destun pryder mawr ac yn aml bydd yn dychwelyd i’r lefelau arferol ymhen ychydig oriau gyda thriniaeth neu heb driniaeth.

Mae angen adolygu cleient sydd â lefelau glwcos uchel yn y gwaed dros gyfnod estynedig.

Os ydych yn bryderus, mae angen i chi gysylltu â’r meddyg teulu yn y lle cyntaf neu’r arbenigwr gofal iechyd arferol. Fel arall, efallai fod angen cysylltu â’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau.

Achosion Hyperglycemia a’i Atal

Bydd bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n achosi hyperglycemia yn eich helpu chi i asesu rhywun a all fod mewn risg uwch o ddatblygu lefelau glwcos uchel er mwyn i chi allu ceisio ei atal yn y lle cyntaf4Diabetes UK (DUK) (2020) Hyperglycaemia (Hyper’s) ar gael yn: https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/complications/hypers. Meddyliwch am y canlynol:

  • faint o ddognau o garbohydradau a fwyteir, a’r math o garbohydradau a fwyteir – gall rhai rhy fawr arwain at hyperglycemia
  • Annog gweithgareddau dyddiol priodol (trafodwch gydag arbenigwr gofal iechyd os ydych yn ansicr)
  • Cofiwch y dylid cymryd meddyginiaeth diabetes yn ôl y presgripsiwn ac ar yr amser cywir
  • Gallai rhoi gormod o driniaeth i bwl hypoglycemig
  • Mae adolygiadau meddyginiaeth yn bwysig i sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn y driniaeth gywir, gan wneud newidiadau yn ôl yr angen
  • Monitro lefelau glwcos y gwaed yn fwy aml os yw’r unigolyn yn sâl
  • Annog diodydd heb siwgr i atal y corff rhag dadhydradu

Diabetes UK (DUK) (2020) Hyperglycaemia (Hyper’s) ar gael yn: https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/complications/hypers.

Symptomau Hyperglycemia

Diabetes UK (DUK) (2020) 5Hyperglycaemia (Hyper’s) ar gael yn: https://www.diabetes.org.uk/
guide-to-diabetes/complications/hypers

Gall symptomau eraill gynnwys:

  • Anymataliaeth (yn gallu bod yn gysylltiedig ag oedran) neu angen mynd i’r toiled ar frys
  • Ceg sych, croen sych
  • Cwympo, yn enwedig os oes gan yr unigolyn symudedd gwael ac angen mynd i’r toiled yn aml
  • Heintiau rheolaidd e.e. heintiau dŵr; y llindag; heintiau ar y frest/mewn briw; gwella’n wael
  • Dryswch neu ddeliriwm yn rhai achosion neu ddementia a/neu iechyd meddwl yn gwaethygu

Os ydych yn bryderus, mae angen i chi gysylltu â’r meddyg teulu yn y lle cyntaf neu’r arbenigwr gofal iechyd arferol. Fel arall, efallai fod angen cysylltu â’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau.

Cymhlethdodau Acíwt Hyperglycemia

Cetoasidosis Diabetig

Pan nad oes gan y corff ddigon o inswlin i ganiatáu glwcos i’r celloedd am egni, mae’r corff yn troi at ffynhonnell arall ar gyfer egni, ac yn dechrau torri braster i lawr.

Mae hyn yn cynhyrchu cetonau. Mae cetonau yn gwneud y gwaed yn asidig, a gall hyn fod yn eithriadol o beryglus a rhoi bywyd rhywun mewn perygl.

Gall cetoasidosis diabetig ddigwydd i unrhyw un sydd â diabetes, ond mae’n fwy cyffredin yn niabetes math 1. Nid yw hyperglycemia yn digwydd bob tro pan mae cetonau yn datblygu, ond bydd yr unigolyn yn sâl. Felly, os ydych yn bryderus am rywun sy’n sâl, dylech gysylltu â’i arbenigwr gofal iechyd.

Mae meddyginiaethau diabetes, e.e. Dapagliflosin, Empagliflosin and Canagliflosin yn cynyddu’r risg o Getoasidosis Diabetig ymhlith pobl sydd â diabetes math 2. Yn ystod cyfnodau o salwch, mae’n bosibl y bydd angen rhoi’r gorau i’r rhain dros dro. Fel arfer, caiff Cetoasidosis Diabetig ei achosi gan ddigwyddiad acíwt neu haint sydd eisoes yn bodoli. Eto, os ydych yn bryderus am rywun sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n sâl a’ch bod yn amau bod ganddo getoasidosis diabetig, cysylltwch â’i arbenigwr gofal iechyd yn syth am gyngor.

Cyflwr Hypersomolar Hyperglycemig (HHS)

Gall hyn ddigwydd i unigolyn (oedolyn) sy’n dioddef o ddiabetes Math 2, boed wedi cael diagnosis ai peidio. Gall fod wedi’i ddadhydradu’n ddifrifol ac yn hyperglycemig (30 mmol/L neu uwch), a bydd yn teimlo’n sâl iawn. Mae Cyflwr Hyperosmolar Hyperglycemig yn argyfwng meddygol sy’n gofyn sylw meddygol brys.6Joint British Diabetes Societies for Inpatient Care Group Diabetes at the front door. A guideline for
dealing with glucose related emergencies at the time of acute hospital admission. Chwefror 2020 (cyhoeddiad ar y we). https://abcd.care/resource/jbds-16-diabetes-front-door
. Fel arfer, caiff ei achosi gan ddigwyddiad acíwt, e.e. trawiad ar y galon neu broblem acíwt yn yr arennau, ond yn gyffredinol mae’n digwydd oherwydd haint sy’n bodoli eisoes.

Beth i’w wneud os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn sâl a’ch bod yn amau Cetoasidosis Diabetig neu Gyflwr Hyperosmolar Hyperglycemig?
Mae adnoddau ar gael sy’n cynnig gwybodaeth ynghylch rheolau ar gyfer diwrnodau o salwch – ond dylech gysylltu â’r meddyg teulu neu’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn syth am gyngor.

12 Cymhlethdodau Tymor Byr

Profwch eich gwybodaeth

1. Beth yw hypoglycemia?
2. Pwy (pobl sy'n dioddef o ddiabetes) sydd mewn risg o gael hypo? Dewiswch bob un sy'n berthnasol
3. Dewiswch 3 symptom cyffredin o hypoglycamia
4. Dewiswch 3 pheth sy'n achosi hypoglycamia
5. Os yw rhywun yn cael hypo difrifol ac efallai'n anymwybodol ac yn methu llyncu, beth fyddech chi'n ei wneud?
6. Os yw rhywun yn cael hypo ysgafn a'i fod yn ymwybodol ac yn gallu llyncu, beth fyddech chi'n ei wneud?
7. Gall lefelau glwcos uchel arwain at gynyddu'r risg o haint ac oedi'r broses wella
8. Pa bobl sy'n dioddef o ddiabetes sydd mewn risg o gael lefelau glwcos uchel (hyperglycemia)? Dewiswch bob un sy'n berthnasol
9. Dewiswch 2 o gymhlethdodau acíwt hyperglycemia
  • 1
    Addaswyd gyda chaniatâd o Diabetes Monitoring Plans for Nursing Homes devised by Nicola Hewer CDSN Education Practitioner C&V UHB 2021, Addaswyd o A Covid-19 Response Action – Diabetes Management in Care Homes. A National Stakeholders Covid-19 Response Group Interim Guidance. Covid-19 and Diabetes: Interim Care Home Guidance (28th April 2020) National Stakeholders Writing Group and Contributors Professor Alan Sinclair (Co-Chair), Professor Ketan Dhatariya (Co-Chair), Olivia Burr, Dr Dinesh Nagi, Professor Partha Kar, David Jones, Dr Philip Newland-Jones, Dr Kath Higgins, Dr Mayank Patel, Dr Ahmed Abdelhafiz, Dr David Hopkins, Dan Howarth, Catherine Gooday. Ar gael yn: Covid-19-and-Diabetes-Care-Home-Guidance-28042020.pdf (abcd. care)
  • 2
    American Diabetes Association (2020) Approach to individualised glycaemic targets. Arlington County, Virginia, United States: American Diabetes Association
  • 3
    Mouri M; Badireddy M (2021) Hyperglycaemia. NVBI Bookshelf. A service of the National Library of Medicine, National Institutes of Health https://www.ncbi.nlm.nih.gov/books/NBK430900
  • 4
    Diabetes UK (DUK) (2020) Hyperglycaemia (Hyper’s) ar gael yn: https://www.diabetes.org.uk/guide-to-diabetes/complications/hypers
  • 5
  • 6
    Joint British Diabetes Societies for Inpatient Care Group Diabetes at the front door. A guideline for
    dealing with glucose related emergencies at the time of acute hospital admission. Chwefror 2020 (cyhoeddiad ar y we). https://abcd.care/resource/jbds-16-diabetes-front-door