Mathau Cyffredin o Ddiabetes

Math 1

Yn datblygu pan nad yw’r corff yn gallu cynhyrchu unrhyw inswlin. Bydd angen i bobl sy’n dioddef o ddiabetes math 1 gymryd pigiadau inswlin am oes. Maent yn ddibynnol ar inswlin. Fel arfer, mae symptomau y math hwn o ddiabetes yn amlygu eu hunain yn gyflym dros gyfnod o ychydig ddyddiau, wythnosau a misoedd yn rhai achosion (prin) 1Diabetes NHS (2022) accessible from: https://www.nhs.uk/conditions/diabetes/.

Math 2

Yn datblygu pan mae’r corff yn dal i greu inswlin ond nid yw’n creu digon ac nid yw’n gweithio’n iawn. Mae’n bosibl nad yw’r symptomau yn cael eu cysylltu â diabetes a gall blynyddoedd fynd heibio cyn cael diagnosis 2NHS Inform (2022) accessible from https://www.nhsinform.scot/illnesses-and-conditions/diabetes/type-2-diabetes#symptoms-of-type-2-diabetes. Fel arfer, caiff diabetes math 2 ei drin drwy wneud newidiadau i ffordd o fyw; tabledi; meddyginiaeth bigiadwy nad ydyw’n inswlin a/neu inswlin. Os yw rhywun sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 angen therapi inswlin, caiff ei ddosbarthu’n ddiabetes math 2 ond bod angen inswlin arno 3Diabetes NHS (2022) accessible from: https://www.nhs.uk/conditions/diabetes/.

Mae mathau eraill o ddiabetes yn cynnwys:

Diabetes Awtoimiwnedd Cudd ymhlith Oedolion (LADA).

Mae diabetes awtoimiwnedd cudd ymhlith oedolion yn ffurf araf o ddiabetes awtoimiwnedd math 1. Wedi dweud hynny, yn wahanol i ddiabetes math 1, efallai na fyddant angen inswlin am rai misoedd, hyd at rai blynyddoedd ar ôl cael diagnosis. I ddechrau, caiff pobl sydd â LADA ddiagnosis anghywir o ddiabetes math 2, oherwydd bod y pancreas yn dal i gynhyrchu peth inswlin. Yr arwyddion i gadw llygad amdanynt os ydych yn amau bod rhywun yn dioddef o LADA yw: rhywun â chorff main yn cael diagnosis o ddiabetes math 2.

Diabetes yn Amlygu Ymhlith Pobl Ifanc wrth iddynt Aeddfedu (MODY).

Caiff hwn ei achosi gan un genyn yn mwtadu. Prif nodweddion MODY yw cael diagnosis o ddiabetes dan 25 oed. Rhiant sydd â diabetes, â diabetes mewn dwy genhedlaeth neu fwy. Nid oes angen inswlin arnynt bob tro. Mae MODY yn brin mewn cymhariaeth â diabetes math 1 a math 2.

Mae mathau eraill o ddiabetes yn cynnwys:

Diabetes yn sgil Steroidau

Gall y feddyginiaeth hon godi lefelau glwcos yn y gwaed, a all arwain at ddiabetes. Gall pobl sydd angen steroidau yn yr hirdymor fynd ymlaen i ddatblygu diabetes math 2.

Meddyliwch am bobl sy’n derbyn therapi steroidau ond nad ydynt wedi cael diagnosis o ddiabetes (clefyd cronig, h.y. Asthma, COPD, Polymyalgia rheumatica, gofal diwedd oes neu bobl sydd efallai angen triniaethau cemotherapi) oherwydd eu bod mewn risg o ddatblygu diabetes math 2.

Cyffuriau gwrthseicotig h.y. cyffuriau fel risperidon, aripiprasol ac olansapin.

Gall y cyffuriau hyn arwain at fagu pwysau ac ymwrthedd inswlin, sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu diabetes math 2.

Achosion eraill o ddiabetes

Cyflyrau e.e. gall ffeibrosis systig; llid y pancreas; wedi cael tynnu rhan o’r pancreas neu’r pancreas cyfan; haemocromatosis (gormod o haearn yn y corff) arwain at ddiabetes oherwydd niwed i’r pancreas 4Diabetes UK (2021) ar gael yn: Other types of diabetes Diabetes UK.