Profi Cetonau

Pwy sydd mewn risg o ddatblygu cetonau?

  • Pobl sy’n dioddef o ddiabetes math 1
  • Pobl sy’n dioddef o ddiabetes math 2 a all fod yn cymryd meddyginiaethau sy’n gorffen gyda ‘flosin’, e.e. Empagliflosin, Dapagliflosin, Canagliflosin, Ertugliflosin

Nid oes rhaid i lefelau glwcos fod yn uwch i getonau ddatblygu. Os yw rhywun sydd â diabetes yn taflu i fyny, wedi’i ddadhydradu, yn sâl yn acíwt, neu â salwch ysbeidiol, mae mewn risg o ddatblygu cetonau. Gall hyn arwain at gymhlethdod difrifol o’r enw cetasidosis diabetig (DKA). Mae monitro cetonau yn y gwaed yn fesuriad mwy manwl gywir na mesuriad wrin.

Os wneir prawf i fonitro cetonau a bod y lefel cetonau yn y gwaed yn uwch na 0.6 mmol/L neu geton wrin o 1 + neu fwy, dylid adrodd hynny i’r meddyg teulu neu’r gwasanaeth y tu allan i oriau os yw’n briodol.

Caniatâd
Oherwydd natur ymwthiol monitro cetonau, dylid cael caniatâd gan yr unigolyn cyn gwneud y weithred yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2021) a Deddf Galluoedd Meddyliol (2020 1Nursing and Midwifery Council (NMC) (2015) The Code: Professional standards of practice and behaviour for nurses, midwives and nursing associates accessible from https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/nmc-publications/nmc-code.pdf2Mental Capacity Act (2020) Mental Capacity Act – Health Research Authority(hra.nhs.uk)nmc-code.pdf.

Ni ddylid gwneud profion cetonau oni bai bod yr unigolyn wedi cael addysg a hyfforddiant er mwyn gwneud hynny. Os ydych wedi’ch cyflogi fel gofalwr, dylech fod yn gwneud y weithred hon yn unol â’ch canllawiau sylfaenol.3Nursing and Midwifery Council (NMC) (2015) The Code: Professional standards of practice and behaviour for nurses, midwives and nursing associates ar gael o: https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/nmc-publications/nmc-code.pdf4Deddf Galluoedd Meddyliol (2020) Mental Capacity Act – Health Research Authority(hra.nhs.uk)nmc-code.pdf.

08 Profi Lefelau Cetonau

Profwch eich gwybodaeth

1. Mae cetonau yn cael eu cynhyrchu pan mae rhywun sy'n dioddef o ddiabetes yn ei reoli'n dda, yn teimlo'n dda ac yn cymryd ei feddyginiaeth yn rheolaidd
2. Dim ond y rhai sy'n gymwys ac sydd wedi derbyn hyfforddiant i'w gwneud ddylai gynnal profion cetonau
3. Dylid cael caniatâd yr unigolyn sy'n derbyn y prawf gwaed glwcos?