Targedau a Phrofion Glwcos

Mae lefelau glwcos yn rhan bwysig o reoli diabetes. Dylid cytuno ar dargedau gan yr unigolyn a/neu’r gofalwr a’r arbenigwr gofal iechyd. Cytunir ar dargedau er mwyn darparu sylfaen er mwyn ein cynorthwyo i ddeall pa un ai a yw lefelau glwcos rhywun yn rhy uchel, yn rhy isel neu o fewn y targedau argymelledig. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn lefel resymol o ofal diabetes i sicrhau ei fod yn ddiogel ac i osgoi cymhlethdodau yn y tymor byr a’r hirdymor.

Nod rheoli diabetes ymhlith pobl eiddil a hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yw osgoi hypoglycemia (lefel isel o glwcos yn y gwaed) a hyperglycemia (lefel uchel o glwcos yn y gwaed), a allai arwain at gynnydd yn y nifer o dderbyniadau i’r ysbyty, a gwaethygu cyflyrau eraill a all effeithio ar eu hansawdd bywyd. Mae canllawiau ar gael yn nodi’r targedau argymelledig, ond dylai’r rhain fod yn benodol i unigolion ac wedi’u cytuno gan eu meddyg teulu, a dylent fod yn rhan o gynllun gofal teilwredig.

Mae lefelau glwcos argymelledig yn anodd eu diffinio yn y grŵp oedran hŷn a dylid eu teilwra yn ôl eu gallu i fyw bywyd; cyflyrau cronig eraill; eiddilwch a gallu gwybyddol.1C.E. Hambling a,b,*, K. Khunti b, X. Cosc , J. Wens d, L. Martineze , P. Topsever f , S. Del Prato g, A. Sinclair h, G. Schernthaner i , G. Ruttenj , S. Seidu (2018) Original research. Factors influencing safe glucose-lowering in older adults with type 2 diabetes: A PeRsOn-centred ApproaCh To IndiVidualisEd (PROACTIVE) Glycemic Goals for older people A position statement of Primary Care Diabetes Europe. Elsevier Ltd ar ran behalf of Primary Care Diabetes Europe2Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty accessed from: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021.

Hypoglycaemia yw llai na 4.0 mmol/l.
Anelwch at darged glwcos o 6 – 12 mmol/L.
Yn ystod diwrnodau olaf bywyd, anelwch at lefel sy’n uwch na 8.0 mmol/L

Gwyddys y gall hypoglycemia arwain at waethygu materion gwybyddol ymhellach a chyflymu’r broses heneiddio3Bruce DG; Davis WA; Casey GP; Clarnette RM; Brown SGA; Jacobs IG; Almeida OP; Davis TME (2009) Severe hypoglycaemia and cognitive impairment in older patients with diabetes: the Fremantle Diabetes Study.

Yn yr un modd, gall hyperglycemia arwain at heintiau, oedi’r broses wella a chynyddu’r risg o gymhlethdodau cardiofasgwlaidd a gwaethygu cyflyrau eraill ac agweddau eraill ar fywyd unigolyn. Y canllawiau i oedolion hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yw cynnal lefelau glwcos rhwng 6 – 12 mmol/L. The End of Life Diabetes Guidance recommend maintaining a glucose level above 8.0mmol/L4Mae’r Canllawiau Diabetes Diwedd Oes yn argymell lefel glwcos yn uwch na 8.0mmol/L4. https://diabetes-resources-production.s3.eu-west-1.amazonaws.com/resources-s3/public/2021-11/EoL_TREND_FINAL2_0.pdf (gweler adran 18 gofal diwedd oes).

Yn ddelfrydol, dylai targedau fod yn addas i’r unigolyn, eu cytuno a’u dogfennu fel rhan o’r cynllun gofal: Fideo Glwcos Gwaed

Profion monitro glwcos o ddydd i ddydd

Monitro Glwcos ‘Fflach’

Nod monitro lefelau glwcos yw: cadw pobl yn

  • ddiogel
  • osgoi symptomau
  • hyrwyddo ansawdd bywyd

Dylid gwneud profion glwcos gan y rheini sy’n gymwys i’w gwneud a dylid eu gwneud yn unol â’r canllawiau sylfaenol. Gellid gwneud hyn drwy wneud prawf pigo bys neu gan ddefnyddio technoleg megis monitro ‘fflach’ e.e. Systemau monitro Libre.

Dylai’r arbenigwr gofal iechyd ddweud pa mor aml y dylid monitro. (gweler yr adran Cyngor ar Fonitro Glwcos a Chetonau).

Dylid gwneud profion glwcos gan y rheini sy'n gymwys i'w gwneud a dylid eu gwneud yn unol â'r canllawiau sylfaenol

Mae datganiad yn bodoli i gefnogi’r defnydd o Libre ond dylid trafod defnyddio’r dechnoleg
hon i fonitro lefelau glwcos gyda’r meddyg teulu a/neu’r arbenigwr gofal iechyd diabetes er mwyn sicrhau defnydd diogel a phriodol (gweler y ddolen isod).

Caiff disg gwyn maint oddeutu tamaid 2 geiniog ei osod ar y fraich (fel y gwelir yn y llun). Mae’r canwla wedi’i osod yn y bilen hylif o dan y croen ond y tu allan i’r pibellau gwaed. Mae hyn yn monitro lefelau glwcos yn yr hylif (nid yn y gwaed).

Gellir gweld y canlyniadau ar ddarllenydd neu ffôn clyfar ar ap Libre. Y cyngor yw y dylid gwneud prawf glwcos gwaed os yw lefel y glwcos yn isel neu’n rhy uchel gan fod y rheini yn fwy cywir yn ystod yr adegau hyn.

Prawf HbA1c

Prawf gwaed yw hwn, lle tynnir gwaed o wythïen yn y fraich. Gellir ei wneud ar unrhyw adeg o’r diwrnod. Caiff ei ddefnyddio i fesur y cyfrif glwcos yn y gwaed dros gyfnod o 2 – 3 mis a chaiff ei fesur mewn mmol/mol. Mae’r prawf hwn yn dynodi pa mor dan reolaeth yw diabetes rhywun.

Mae’r tabl isod yn argymell yr ystod HbA1c yn seiliedig ar eiddilwch yr unigolyn. Felly er enghraifft, yn achos oedolyn hŷn heini sy’n dioddef o ddiabetes, dylem anelu at gyflawni HbA1c o rhwng 53 – 58 mmol/l5Strain W, Hope S, Green A, Kar P, Valabhji J, Sinclair A. Type 2 diabetes mellitus in older people: a brief statement of key principles of modern day management including the assessment of frailty. A national collaborative stakeholder initiative. Diabet Med 2018; 35 (7): 838–845..

Y gred yw nad oes llawer o bobl 70 oed neu hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yn elwa ar gael lefelau glwcos llym gyda HbA1c llai na 53 mmol/L.6Clegg A, Bates C, Young J et al. Development and validation of an eletronic frailty index using routine primary care electronic health record data. Age Ageing 2016; 45: 353-360.

Sgôr Mynegai Eiddilwch Electronig7De Blase S. The Electronic Frailty Index Guidance Notes. Yorkshire and Humber Academic Health Science Network Improvement Academy. Available at: https://www.improvementacademy.org/Trothwy IsafTrothwy Uchaf
Oedolyn hŷn heini sy'n dioddef o ddiabetesHbA1c 53 mmol/molHbA1c 58 mmol/mol
Eiddilwch cymedrol—difrifolHbA1c 58 mmol/molHbA1c 64 mmol/mol
Eiddilwch difrifol iawnHbA1c 64 mmol/mol HbA1c 70 mmol/mol

Mae graddfa eiddilwch clinigol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Chlinigol yn rhoi peth eglurhad i ddiffinio eiddilwch8 (i’r rheini mewn sefyllfa gofal critigol) ond dylid bod yn ofalus defnyddio’r raddfa hon yn achos unigolion sy’n ieuengach na 65 oed.

Oedolion hŷn sydd wedi'i asesu ag eiddilwch cymedrolving
moderate
frailty
Yn ôl sgôr Eiddilwch y DU, golyga hyn eu bod angen cymorth gyda phob gweithgaredd yn yr awyr agored, gwaith tŷ yn cynnwys angen peth cymorth gyda gofal personol, megis mynd i'r bath a gwisgo. Gallant ei chael hi'n anodd gyda grisiau.
Oedolion hŷn ag eiddilwch difrifolYn gwbl ddibynnol ar gyfer gofal personol, boed hynny oherwydd rhesymau corfforol neu wybyddol. Yn ôl y raddfa, gall yr unigolyn ymddangos yn sefydlog a heb fod mewn risg uchel o farw cyn pen 6 mis.
Oedolion ag eiddilwch hynod ddifrifolYn gwbl ddibynnol ac yn agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae'n annhebygol o wella hyd yn oed o fân salwch.

Addaswyd o Strain S et al (2018), dyfynnwyd yn Sinclair A (2019)

Targedau Eiddilwch a Glwcos

Byddai pobl sydd yn y grŵp eiddilwch cymedrol i ddifrifol a difrifol iawn mewn risg uwch o hypoglycemia (lefel glwcos isel) a’i gymhlethdodau. Felly, targed realistig ar gyfer lefelau glwcos a HbA1c fyddai ei osod yn uwch. Byddai hwn yn ddull mwy diogel i leihau risgiau o hypoglycemia heb achosi symptomau o hyperglycemia (lefelau glwcos uchel) a all effeithio ar ansawdd bywyd.

  • Dylai pobl sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n 65 oed a hŷn gael asesiad eiddilwch, yn cynnwys difrifoldeb eiddilwch
  • Dylai targedau glwcos fod yn synhwyrol, yn ddiogel ac yn briodol
  • Y nod yw osgoi hypoglycemia a hyperglycemia, a allai arwain at gynnydd yn y nifer o dderbyniadau i’r ysbyty, a gwaethygu cyflyrau eraill a all effeithio ar ansawdd bywyd
  • Dylai arbenigwr gofal iechyd wirio ac adolygu meddyginiaethau pob oedolyn hŷn sydd â diabetes ac sy’n eiddil o leiaf bob blwyddyn, fel rhan o’i adolygiad diabetes.8Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty, cyrchwyd o: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021

07 Profi and Thargedau Glwcos

Profwch eich gwybodaeth

1. Nod monitro lefelau glwcos yw:
2. Dim ond y rhai sy'n gymwys ac sydd wedi derbyn hyfforddiant i'w gwneud ddylai gynnal profion gwaed glwcos
3. Dylid cael caniatâd yr unigolyn sy'n derbyn y prawf gwaed glwcos?
4. Y lefel glwcos gorau er mwyn atal hypoglycemia a hyperglycemia yw 6 – 12 mmol/L
5. Mae prawf gwaed HbA1c yn mesur y cyfrif glwcos yn y gwaed dros gyfnod o 2 – 3 mis
6. Pa lefel o HbA1c a argymhellir ar gyfer unigolyn sy'n dioddef o ddiabetes ac sy'n hynod o eiddil?
  • 1
    C.E. Hambling a,b,*, K. Khunti b, X. Cosc , J. Wens d, L. Martineze , P. Topsever f , S. Del Prato g, A. Sinclair h, G. Schernthaner i , G. Ruttenj , S. Seidu (2018) Original research. Factors influencing safe glucose-lowering in older adults with type 2 diabetes: A PeRsOn-centred ApproaCh To IndiVidualisEd (PROACTIVE) Glycemic Goals for older people A position statement of Primary Care Diabetes Europe. Elsevier Ltd ar ran behalf of Primary Care Diabetes Europe
  • 2
    Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty accessed from: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021
  • 3
    Bruce DG; Davis WA; Casey GP; Clarnette RM; Brown SGA; Jacobs IG; Almeida OP; Davis TME (2009) Severe hypoglycaemia and cognitive impairment in older patients with diabetes: the Fremantle Diabetes Study
  • 4
    Mae’r Canllawiau Diabetes Diwedd Oes yn argymell lefel glwcos yn uwch na 8.0mmol/L4. https://diabetes-resources-production.s3.eu-west-1.amazonaws.com/resources-s3/public/2021-11/EoL_TREND_FINAL2_0.pdf
  • 5
    Strain W, Hope S, Green A, Kar P, Valabhji J, Sinclair A. Type 2 diabetes mellitus in older people: a brief statement of key principles of modern day management including the assessment of frailty. A national collaborative stakeholder initiative. Diabet Med 2018; 35 (7): 838–845.
  • 6
    Clegg A, Bates C, Young J et al. Development and validation of an eletronic frailty index using routine primary care electronic health record data. Age Ageing 2016; 45: 353-360
  • 7
    De Blase S. The Electronic Frailty Index Guidance Notes. Yorkshire and Humber Academic Health Science Network Improvement Academy. Available at: https://www.improvementacademy.org/
  • 8
    Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty, cyrchwyd o: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021