Symptomau Diabetes

Blinder

Nid yw glwcos yn gallu cyrraedd y celloedd er mwyn ei drosi’n egni, a gall blinder a theimlo’n gysglyd fod y symptomau cyntaf i rywun gwyno amdanynt.

Toiled

Mae’r corff yn ceisio cael gwared ar y glwcos ychwanegol sydd yn y corff drwy ei anfon at yr arennau a’r bledren, ac mae hyn yn achosi i rywun fynd i’r toiled yn aml, yn enwedig yn ystod y nos.

Syched

Oherwydd bod y corff yn colli hylif ar ffurf wrin, gall hyn arwain at ddadhydradu’r corff a bydd yr unigolyn yn yfed mwy i wneud iawn am hynny.

Teneuo

Mae teneuo yn digwydd oherwydd bod y corff yn dechrau torri i lawr ei fraster ei hun fel ffynhonnell egni a phan ydych yn colli glwcos yn yr wrin, gall hynny arwain at golli calorïau ac felly colli pwysau. 1Diabetes UK (DUK 2022) What are the Signs & Symptoms of Diabetes? https://diabetes.org.uk/diabetes-the-basics/diabetes-symptoms

Gall y symptomau fod yn eithaf dramatig yn rhywun sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 1 ac yn ysgafn yn rhywun sydd â diabetes math 2 oherwydd ei fod yn amlygu ei hun yn arafach. Gall unigolyn sydd â diabetes math 1 ond heb gael diagnosis ohono gynhyrchu tocsinau o’r enw cetonau. Caiff y rhain eu ffurfio pan mae’r corff yn torri ei fraster ei hun fel ffynhonnell o egni. Mae cetonau yn gwneud y corff yn asidig a gall arwain at gyflwr o’r enw cetoasidosis diabetig sy’n cael ei drafod yn adran Cymhlethdodau Diabetes. (adran 10).

Ymhlith y boblogaeth hŷn, byddwch yn ymwybodol o symptomau fel:

  • Blinder neu deimlo’n fwy cysglyd na’r arfer
  • Mynd i’r toiled yn fwy aml neu heintiau wrin neu lindag rheolaidd.
  • Gall anymataliaeth fod yn gysylltiedig ag oedran ond gallai fod oherwydd lefelau glwcos uchel
  • Gall colli pwysau fod yn gysylltiedig â diffyg chwant bwyd, yn enwedig ymhlith preswylwyr newydd
  • Newid yn yr arfer ar gyfer rhywun sy’n derbyn gofal
  • Cynnydd mewn heintiau e.e. gallai heintiau ar y frest sydd angen gwrthfiotigau yn rheolaidd fod oherwydd lefelau glwcos uchel
  • Briwiau yn gwella yn wael
  • Iechyd meddwl, problemau gwybyddol, e.e. dementia – efallai fod newid yn ymddygiad yr unigolyn ac efallai na fydd yn gallu cyfathrebu ei symptomau, e.e. gallai ddod yn llai bodlon, ac ymddwyn yn heriol
  • Gallai dryswch fod yn gysylltiedig â’i iechyd meddwl ond gall fod oherwydd bod y corff wedi’i ddadhydradu yn sgil lefelau glwcos uwch
  • Ceg sych, croen sych – oherwydd bod y corff yn ceisio cael gwared ar glwcos ychwanegol yn yr wrin, sy’n arwain at y corff yn dadhydradu

Yn achos unigolyn hŷn a/neu eiddil, gall symptomau fod yn gysylltiedig â’r broses heneiddio, eiddilwch neu’r ddau, ac efallai na fydd yn gallu mynegi ei hun, e.e. efallai ei fod yn dioddef o ddementia, yn ddryslyd, yn aflonydd. Efallai fod ganddo groen sych a/neu geg sych oherwydd bod y corff wedi dadhydradu; datblygu anymataliaeth; yn dioddef o heintiau rheolaidd neu unrhyw glwyfau yn gwella yn wael, ac felly, o bosibl, eich cyfrifoldeb chi yw cadw llygad am yr arwyddion hyn a’u hadrodd i’r arbenigwr gofal iechyd. 2Hambling C.E.; Khunti K; Cos X; Wens J; Martinez L; Topsever P; Del Prato S; Sinclair A; Schernthaner G; Rutten G; Seidu S. (2018) Original research. Factors influencing safe glucose-lowering in older adults with type 2 diabetes: A PeRsOn-centred ApproaCh To IndiVidualisEd (PROACTIVE) Glycemic Goals
for older people. A position statement of Primary Care Diabetes Europe. Elsevier Ltd on behalf of Primary Care Diabetes.13 (2019), 330-352: https://www.journals.elsevier.com/primary-care-diabetes 28/09/2021.

03 Symptomau Diabetes

Profi eich Gwybodaeth

1. Dewiswch 4 o brif symptomau Diabetes
2. Mae diabetes math 1 yn datblygu'n araf
3. Pa un o'r canlynol sy'n wir?
  • 1
    Diabetes UK (DUK 2022) What are the Signs & Symptoms of Diabetes? https://diabetes.org.uk/diabetes-the-basics/diabetes-symptoms
  • 2
    Hambling C.E.; Khunti K; Cos X; Wens J; Martinez L; Topsever P; Del Prato S; Sinclair A; Schernthaner G; Rutten G; Seidu S. (2018) Original research. Factors influencing safe glucose-lowering in older adults with type 2 diabetes: A PeRsOn-centred ApproaCh To IndiVidualisEd (PROACTIVE) Glycemic Goals
    for older people. A position statement of Primary Care Diabetes Europe. Elsevier Ltd on behalf of Primary Care Diabetes.13 (2019), 330-352: https://www.journals.elsevier.com/primary-care-diabetes 28/09/2021.