Problemau seicolegol a gwybyddol ymhlith pobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes

Problemau seicolegol ymhlith pobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes

  • Mae pobl sy’n dioddef o ddiabetes yn fwy tebygol o brofi problemau seicolegol cyffredin, fel iselder a gorbryder, ac mewn risg uwch o gyflawni hunanladdiad. Pwysig yw asesu a monitro’n rheolaidd hwyliau unigolyn er mwyn cadw llygad ar unrhyw broblemau posibl a/neu arwyddion o ddirywio
  • Gallai’r problemau seicolegol hyn fodoli heb ddiagnosis ymhlith pobl sy’n dioddef o ddementia, ac yn hytrach caiff ei ystyried yn “symptom seicolegol o ddementia”
  • Mae problemau seicolegol heb eu trin yn ei gwneud hi’n fwy anodd i rywun reoli ei ddiabetes, sydd yn ei dro yn gwaethygu trallod seicolegol rhywun
  • Os oes pryderon am iechyd seicolegol unigolyn sy’n hunan-reoli ei feddyginiaeth diabetes, mae’n bwysig monitro’n agos y modd mae’n gweinyddu’r feddyginiaeth iddo ef ei hun a bod cynlluniau ar waith i roi rhagor o gefnogaeth a/neu gymryd rheolaeth dros weinyddu’r feddyginiaeth petai risgiau yn codi

Problemau gwybyddol ymhlith pobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes

  • Mae gan bobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes math 2 risg llawer uwch o ddatblygu dementia na phobl hŷn nad ydynt yn dioddef o ddiabetes
  • Mae’r risg uwch o ddementia yn berthnasol ar gyfer y ddau fath o ddementia, sef fasgwlar neu niwroddirywiol (Alzheimer’s)
  • Pwysig yw monitro’n rheolaidd pobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes am arwyddion o broblemau gwybyddol a dirywiad gwybyddol. Dylid adrodd unrhyw bryderon i feddyg teulu’r unigolyn ac efallai y bydd angen cynnal asesiad cof
  • Pobl sy’n dioddef o ddiabetes a lefelau glwcos uchel yn y gwaed am gyfnod estynedig sydd â’r risg uchaf o ddementia. Mae amlder hypoglycemia difrifol (lefelau siwgr isel yn y gwaed) hefyd yn cynyddu’r risg o ddementia
  • Mae pobl sy’n dioddef o broblemau gwybyddol fel dementia yn ei chael hi’n anodd rheoli eu diabetes. Mae hyn wedyn yn arwain at gylchred niweidiol o lefelau ansefydlog o glwcos yn y gwaed sy’n arwain at waethygu problemau gwybyddol
  • Os oes pryderon am iechyd gwybyddol unigolyn sy’n hunan-reoli ei feddyginiaeth diabetes, mae’n bwysig monitro’n agos y modd mae’n gweinyddu’r feddyginiaeth iddo ef ei hun. Sicrhewch fod cynlluniau ar waith i roi rhagor o gefnogaeth a/neu gymryd drosodd y gwaith o roi meddyginiaeth os bydd risgiau’n cael eu nodi.

11 Problemau seicolegol a gwybyddol o gyda diabetes

Profwch eich gwybodaeth

1. Mae pobl sy'n dioddef o ddiabetes yn fwy tebygol o brofi problemau seicolegol cyffredin, fel iselder a gorbryder
2. Mae problemau seicolegol a/neu broblemau gwybyddol heb eu trin yn ei gwneud hi'n fwy anodd i unigolyn reoli ei ddiabetes
3. Pobl sy'n dioddef o ddiabetes a lefelau glwcos uchel yn y gwaed am gyfnod estynedig sydd â'r risg uchaf o ddementia
Diabetes Education & Information Resource
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.