Retinopathi Diabetig a Sgrinio Llygaid Diabetig

Beth yw Retinopathi Diabetig?

Mae Retinopathi Diabetig (RD) yn un o gymhlethdodau diabetes sy’n effeithio ar bibellau gwaed bach yng nghefn y llygaid (y retina). Gall lefelau glwcos uchel yn y gwaed achosi i’r pibellau gwaed bach yn y retina gau. Pan mae hyn yn digwydd, mae’r llygaid yn cyfaddawdu am y cyflenwad gwaed is drwy dyfu pibellau gwaed newydd sy’n fregus ac yn gallu gollwng. Y retina yw rhan ‘gweld’ y llygaid, a gall effeithio ar y golwg os caiff ei niweidio. Os caiff ei adael heb ei drin, gall hyn achosi dallineb neu golli golwg na ellir mo’i wella.

Atal a Thrin

Mae hwn yn gyflwr graddol, ond gellir oedi neu wella niwed i’r llygaid yn y camau cynnar.

Y prif fesurau ataliol yw monitro a rheoli lefelau glwcos yn y gwaed, pwysedd gwaed a cholesterol. Efallai fod yr unigolyn yn cymryd meddyginiaethau i helpu i leihau eu risgiau. Bydd bwyta deiet cytbwys a chadw’n heini hefyd yn fuddiol.

Sgrinio am Retinopathi Diabetig

  • Dylai pobl sy’n dioddef o ddiabetes fynd am apwyntiadau sgrinio llygaid yn rheolaidd yn ogystal â phrofion llygaid rheolaidd gydag optegydd. Dylai fod optegydd neu optometrydd yn ymchwilio i unrhyw broblemau gyda’r golwg, yn hytrach nag aros am apwyntiad sgrinio llygaid .
  • Mae sgrinio llygaid diabetig yn cynnwys tynnu ffotograffau o gefn y llygaid gan ddefnyddio camera arbennig, ar ôl rhoi diferion yn y llygaid i ymledu’r gannwyll llygad. Gall y diferion llygaid fod yn anghyfforddus a bydd yn achosi amhariad i’r golwg am oddeutu 4-6 awr.
  • Mae’r apwyntiad sgrinio llawn yn cymryd rhwng 40 munud ac awr. Mae’n cymryd oddeutu 5 i 10 munud i dynnu lluniau’r llygaid. Bydd angen i’r unigolyn sy’n cael ei sgrinio barhau i eistedd yn edrych ar y camera, gan gadw ei ben yn llonydd a symud ei lygaid yn ôl y cyfarwyddyd er mwyn tynnu ffotograffau clir.
  • Yna caiff delweddau’r llygaid eu hasesu am Retinopathi Diabetig (RD). Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu galw i gael eu sgrinio bob 1-2 flynedd, ond bydd oddeutu 1 ym mhob 50 o bobl sy’n cael y prawf yn cael ei atgyfeirio at arbenigwr llygaid am ragor o ymchwiliad neu i drin ei retinopathi

Dylid gofyn am gyngor gan dîm nyrsio DESW cyn mynychu’r clinig, drwy alw llinell gymorth DESW sydd i’w gweld ar y llythyr apwyntiad ac ar 03000 030 500.

Fel arall, gallwch anfon neges e-bost atynt drwy diabetic-eye-screening@ wales.nhs.uk neu fynd i https://phw.nhs. wales/services-and-teams/screening/ diabetic-eye-screening-wales/ i gael mwy o wybodaeth. 1Canllawiau – Pobl sydd â diabetes ac sy’n gyrru i apwyntiadau, a defnyddio diferion (diweddarwyd Mawrth 2024) https://www.gov.uk/government/publications/diabetic-eye-screening-patients-who-drive-to-appointments/diabetic-eye-screening-patients-who-drive-to-appointments (cyrchwyd 22/07/2024).

  • Nid yw sgrinio yn atal retinopathi, ond gall ei adnabod yn gynnar pan mae’r driniaeth yn fwy effeithiol.
  • Eich dewis chi yw mynychu apwyntiad sgrinio. Mae rhai pobl yn dewis peidio mynd, neu’n methu mynd i apwyntiadau sgrinio. Byddant yn dal i gael eu gwahodd i apwyntiad sgrinio’r llygaid eto cyn belled ag nad ydynt:
    – yn gwbl ddall yn y ddwy lygad
    – wedi optio allan o’r gwasanaeth
    – wedi’u hasesu’n anghymwys i gael eu sgrinio
  • Nid yw pobl na allant fynychu clinig cymunedol yn gallu cael eu sgrinio e.e.
    – efallai na fydd y rheini na allant aros yn llonydd
    – y rheini na allant blygu ymlaen
    – a/neu’r rheini na allant ddilyn cyfarwyddiadau gael eu sgrinio

Gellir trin retinopathi. Mae’n hanfodol sgrinio llygaid yn rheolaidd.

Cyflyrau Llygaid Eraill

Gall pobl sy’n dioddef o ddiabetes fod mewn risg uwch o gataractau a glawcoma. Mae’r risg o’r cyflyrau hyn yn cynyddu gydag oedran, ac i bobl sy’n dioddef o ddiabetes.

Cataractau

Achosir cataractau pan mae’r lens yn y llygaid yn datblygu mannau cymylog. Mae hyn yn achosi:

  • Golwg cymylog neu wedi’i amharu
  • Golwg dwbl
  • Trafferthion gweld mewn golau gwael
  • Sensitifrwydd i olau a golau llachar

Glawcoma

Achosir glawcoma gan bwysedd cynyddol yn y llygaid a gall niweidio nerf y llygaid. Dyma’r arwyddion:

  • Colli golwg ochr neu berifferol
  • Gweld lleugylchau o gwmpas goleuadau
  • Amhariad i’r golwg

16 Retinopathi a Sgrinio Llygaid Diabetig

Profwch eich gwybodaeth

1. Dylai pobl sy'n dioddef o ddiabetes gael eu sgrinio'n rheolaidd ar gyfer y Sgrinio Llygaid Diabetig
2. Dylai unigolyn sy'n mynd i apwyntiad sgrinio llygaid diabetig allu: (Dewiswch bob un sy'n berthnasol)
3. Mae retinopathi diabetig yn gyflwr sy'n effeithio ar y pibellau gwaed mawr yn nhu blaen y llygad
4. Nid oes modd osgoi retinopathi diabetig
5. Gall pobl sy’n dioddef o ddiabetes fod mewn risg uwch o gataractau a glawcoma
Diabetes Education & Information Resource
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.