Canllawiau gofal traed
Gweithio ar y Cyd
Nod
Gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth mewn gofal traed hanfodol ar gyfer pobl sy’n dioddef o Ddiabetes.
Amcanion:
Galluogi’r gofalwr i:
- adnabod problemau traed sydd angen eu hatgyfeirio at asiantaethau eraill
- arddangos gofal traed i’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes (er mwyn iddo allu gofalu amdano ef ei hun) os allai wneud hynny
- rhoi addysg am ofal traed er mwyn galluogi’r unigolyn i ofalu amdano ef ei hun pryd bynnag sy’n briodol
- rhoi cyngor ar sanau ac esgidiau
- adnabod problemau traed sydd angen eu hatgyfeirio at feddyg teulu a/neu Driniwr Traed Cofrestredig â’r Cyngor y Proffesiynau Iechyd – Preifat neu’r GIG
Ymolchi
- Dylid ymolchi’r traed bob dydd. Mae hyn yn eu cadw’n lân ac yn atal unrhyw newidiadau neu broblemau, a’u hadnabod.
- Defnyddiwch sebon gwan a dŵr llugoer (gwiriwch dymheredd y dŵr). Gall rhai pobl golli teimlad yn eu traed ac yn methu â dweud pa un ai a yw’r dŵr yn rhy boeth, a sylweddoli bod y dŵr yn rhy boeth pan mae’r croen yn llosgi neu pan mae’r dŵr yn cyffwrdd rhan o’r corff y gellir ei theimlo
- Ymolchwch y traed yn drylwyr
- Peidiwch â rhoi’r traed mewn dŵr am fwy na 5 munud. Gall rhoi’r traed mewn dŵr am fwy na 5 munud achosi i’r croen ddod yn feddal a brau (Ffigwr 1)
- Sychwch rhwng y bodiau yn ofalus
Ffigwr 1
Sicrhewch eich bod yn sychu rhwng y bodiau ar ôl eu hymolchi a pheidiwch â rhoi hufen croen rhwng y bodiau gan y gall achosi i’r croen deneuo a philio a bod yn fwy agored i heintiau ffwngaidd.
Croen sych
Croen llaith
Gall croen sych fod yn frau ac yn haws ei niweidio. Gall gwarchod croen eich traed helpu i atal problemau, gan gynnwys rhwygiadau yn y croen.
- Dylid rhoi hufen lleithio/esmwythaol bob dydd
- Peidiwch â rhoi’r hufen rhwng y bodiau (ffigwr 1)
- Bydd hufen ar gyfer y traed yn cynnwys Wrea yn helpu i leithio croen caled, sych neu sodlau wedi cracio (ffigwr 2)
Ffigwr 2
Gellir rheoli sodlau sych wedi cracio gan ddefnyddio hufen traed yn cynnwys Wrea bob diwrnod. Mae rhai pobl yn hoffi ei roi ymlaen gyda’r nos a gwisgo pâr o sanau cotwm dros yr hufen er mwyn helpu’r droed ei amsugno.
- Fel arall, gallwch brynu hufen lleithio mewn fferyllfeydd/archfarchnadoedd lleol
- Dylid osgoi plastrau cyrn a llafnau diogelwch. Maent yn debygol o achosi niwed
Gall croen chwyslyd fod yn frau ac yn haws ei niweidio. Gall cadw traed yn sych a glân helpu i atal problemau, gan gynnwys rhwygiadau yn y croen (Ffigwr 1).
- Gellir dabio traed chwyslyd â gwlân cotwm gyda gwirod meddygol arno
- Gellir defnyddio ychydig o dalc ar groen chwyslyd ar gyfer y rheini sy’n defnyddio’r powdrau hyn. Er, ceisiwch osgoi gormodedd rhwng y bodiau
- Os ydych yn defnyddio talc, rhaid ymolchi a sychu’r traed bob diwrnod, yn enwedig rhwng y bodiau
Gofalu am ewinedd
Gall ewinedd fynd yn drwchus a chaled wrth i ni heneiddio neu os ydynt wedi’u niweidio. Gall ceisio torri ewinedd achosi trawma i’r croen a dylid osgoi gwneud hynny (ffigwr 3).
- Mae ffeilio’r ewinedd bob wythnos yn ffordd ddiogel o reoli ewinedd heb achosi trawma i’r croen
- Gall defnyddio bwrdd emeri bob wythnos a ffeilio’r ewinedd pan maent yn sych gadw’r ewinedd yn fyr a dan reolaeth
- Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn gallu cyrraedd ei draed yn ddiogel, dylid ei annog i ffeilio ei ewinedd bob wythnos, neu efallai y gall aelod o’r teulu ei helpu
- Fel arall, gall Triniwr Traed wedi’i gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal roi rhagor o gyngor.
Os gwelwch yn dda ewch i’r ffilmiau canlynol:
Gofalu am eich traed
Deall traed
Gofalu am y Traed Risg Uchel
Mae trinwyr traed sy’n gweithio yn y GIG wedi’u cofrestru â’u corff llywodraethu, sef HCPC (y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal), sy’n sicrhau eu bod yn bodloni’r Safonau Cenedlaethol. Yna, gallant ddefnyddio’r blaenlythrennau hyn i ddynodi’r lefel o hyfforddiant maent wedi’i chael.
Niwed i flaen ewinedd
Clwyfau a chrafiadau
Lympiau bach yng ngwely’r ewinedd
yw’r rhain sydd i’w cael o dan yr ewinedd ac yn
llawn pibellau gwaed
- Byddai’n well defnyddio ffeil ewinedd i osgoi achosi trawma i flaen ewinedd
- Petai hyn yn digwydd, rhaid rhoi gorchudd fel petaech yn gwneud gydag unrhyw glwyf neu grafiad, a’i fonitro
- Dylid glanhau pothelli, rhwygiadau, craciau neu holltau, briwiau a chrafiadau a niwed arall i’r croen yn ofalus gyda dŵr tap yn unig a dylid gosod gorchudd clwyf sych a glân arnynt
- Rhaid cadw pob niwed i’r croen yn sych, a’u monitro bob 1-2 ddiwrnod, ac ni ddylid eu gadael yn ddisylw. Dylid disgwyl i friwiau neu glwyfau bach, arwynebol wella ymhen ychydig ddyddiau
- Rhaid atgyfeirio unrhyw friwiau, dolur, ardaloedd neu glwyfau wedi’u heintio sy’n araf yn gwella at Nyrs Ardal, meddyg teulu y cleient neu Driniwr Traed cofrestredig â’r HCPC (Ffigwr 4).
iDEAL Diabetes
GWEITHREDWCH NAWR
Ffigur 4
Mae’r rhain yn glwyfau ar flaenau’r traed mawr; efallai eu bod wedi dechrau gyda thoriad bach neu bothell ond heb wella. Os yw toriad bach yn cymryd mwy nag ychydig ddyddiau i wella dilynwch y cyngor uchod, gofynnwch am gyngor meddygol gan Bodiatrydd cofrestredig yr HCPC, meddyg teulu neu nyrs ardal.
Arwyddion Perygl/Rhybuddion
Petai unrhyw un o’r arwyddion neu’r symptomau canlynol yn amlygu eu hunain, yna mae angen i’r nyrs/gofalwr ystyried atgyfeirio’r unigolyn at aelod o staff uwch (os ydyw mewn cartref gofal), meddyg teulu, Triniwr Traed cofrestredig â HCPC neu dîm Nyrsys Ardal.
Ardaloedd:
- Poenus, coslyd, wedi chwyddo, wedi newid lliw
- Y troed neu goes wedi newid lliw neu dymheredd
- Coch, gwres, gloyw neu ardaloedd gwyn ac oer iawn
- Rhwygiadau yn y croen (gweler y nodiadau ynghylch briwiau ar y croen)
- Gollwng crawn, gwaed neu’n diferu
- Dideimlad neu ddiffyg teimlad neu ddefnydd
- Cyrn, croen caled neu anafiadau eraill i’r croen
- Ewinedd wedi tewychu neu newid siâp
- Casewin
Atal croes-heintio
Un defnydd/defnydd gan un unigolyn er mwyn lleihau risgiau croes-heintio
- Dim ond diheintio eitemau a ddefnyddir gan un unigolyn sydd ei angen rhwng eu defnyddio, h.y. ffeiliau ewinedd. Gellir prynu’r rhain a chael gwared arnynt ar ôl eu defnyddio. Ffeiliau metel
- (Ffeil Diamond Deb) Gellir eu prynu a’u diheintio ar ôl pob defnydd
- Mae golchi dwylo yn aml yn allweddol i leihau risgiau croes-heintio ar gyfer gofalwyr a’r sawl sy’n derbyn gofal
Sanau
- Mae angen newid a golchi sanau a theits bob diwrnod
- Dylai bod digon o le fel nad yw’r traed a’r bodiau yn cael eu gwasgu
- Mae sanau a theits tynn yn cyfyngu’ch cylchrediad gwaed ac mae’n well eu hosgoi, yn enwedig ymhlith pobl hŷn neu bobl sydd â chylchrediad gwaed gwael, heb lawer o deimlad, wedi chwyddo neu feinwe gwael (croen brau)
- Mae cymysgeddau o gotwm a gwlân yn aml yn gynhesach na defnyddiau synthetig ac nid ydynt yn achosi problemau i draed sy’n eithafol o chwyslyd Yn ddelfrydol, dylid rhoi sanau elastig/sanau cefnogi yn gynnar yn y bore cyn i’r cleient godi o’i wely, os cânt eu defnyddio i leihau chwydd a rhaid iddynt ffitio’n iawn Dylid gwisgo sanau gydag esgidiau bob amser, gan gynnwys sliperi
Esgidiau – cyngor ar ffitio (esgidiau, sandalau a sliperi)
Dylai pob esgid ffitio’n iawn
- Mae’n well gwisgo esgid yn y bore neu’n gynnar yn y prynhawn gan fod traed nifer o bobl yn chwyddo yn ystod y diwrnod. Dylid trio a ffitio esgidiau gyda’r unigolyn ar ei draed (os yw’n gallu) ac yn eistedd. Dylai’r unigolyn gerdded o gwmpas y siop i ganiatáu i’r droed orwedd yn ei ystum naturiol
- Mae angen i’r traed gael eu mesur gan rywun sydd wedi cael hyfforddiant i wneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn ffitio’n iawn, gan fod traed yn newid eu siâp a’u maint dros y blynyddoedd. Nid pawb sy’n dioddef o ddiabetes sy’n gallu teimlo eu traed, felly mae’n anodd dweud pa un ai a yw’r esgid yn rhy fach neu’n rhy fawr
- Rhaid i esgidiau ffitio’n dda, yn llydan, yn ddwfn ac yn grwn yn ardal y bodiau a rhaid bod modd eu cau. Dylai’r sawdl ffitio’n ddigon cadarn, heb fod yn rhy dynn nac yn rhy lac
- Mae esgidiau sydd â chareiau neu strapiau y mae modd eu haltro (Felcro neu fwcwl) yn dal yr esgid yn sownd i’r droed ac yn atal y droed rhag symud ymlaen y tu mewn i’r esgid (mae careiau elastig ar gael i’r rheini nad ydynt yn gallu plygu neu eu clymu)
- Ni ddylid bod angen ‘torri i mewn’ esgidiau newydd, ond mae’n well eu gwisgo am gyfnodau byr yn gyntaf a chynyddu’n raddol y cyfnod o amser y gwisgir yr esgid. Cadwch lygad am unrhyw ardaloedd sydd wedi cochi neu arwyddion o rwbiadau. Os oes arwyddion bod yr esgidiau yn rhwbio, dylid cael gwared arnynt
- Mae esgidiau yn rhoi diogelwch a chefnogaeth, felly chwiliwch am sodlau meddal heb fod yn llithrig a rhannau uchaf hyblyg, meddal o ledr neu ffabrig
Esgidiau – cyngor cyffredinol
- Pryd bynnag sy’n bosibl, osgowch ddefnyddio’r un esgidiau am gyfnodau rhy hir a sicrhau eu bod yn cael awyr iach i’w sychu
- Cynghorir chi i gael dau bâr o esgidiau a’u gwisgo nhw bob yn ail ddiwrnod. Gall esgidiau sydd wedi cau ac wedi’u gwneud o ddeunydd wedi’u gwneud â llaw yn aml achosi chwysu gormodol (e.e. trenyrs/rhai sliperi/welis) a dylid eu newid a’u hawyru’n aml
Am ragor o gyngor ar Esgidiau, ewch i: https://www.healthy-footwear-guide.com/
Ymarfer corff a llesiant
Pryd bynnag sy’n bosibl, dylid annog pobl sy’n dioddef o ddiabetes i wneud ymarfer corff, gan gynnwys eu traed, gan y gall hyn gynorthwyo i gynnal cryfder craidd a symudedd. Gall y wefan isod (Dewis Cymru) roi rhagor o wybodaeth ynghylch dosbarthiadau ymarfer corff yn eich ardal, yn ogystal â chyngor a gwybodaeth ynghylch eich llesiant.
Llesiant
Dewis Cymru yw’r lle DELFRYDOL i fynd os hoffech gyngor neu wybodaeth ynghylch eich llesiant –
neu os hoffech wybod sut allwch helpu rywun arall.
Pan ydym yn siarad am eich llesiant, nid eich iechyd yn unig ydym ni’n ei olygu. Rydym yn golygu pethau fel lle’r ydych yn byw, pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo, mynd allan i grwydro, a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Does neb yr un fath. Mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Felly, mae Dewis Cymru yma i ddysgu mwy am beth sy’n bwysig i chi. Mae’r wybodaeth hon ar gael yn www.dewis.wales.
Mae gennym wybodaeth a all eich helpu chi i feddwl beth sy’n bwysig i chi, ac mae gennym wybodaeth hefyd ynghylch pobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu chi gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.
Gweithio ar y cyd
Mae staff Trin Traed y GIG yn hapus i roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth pryd bynnag ydych chi ei hangen.
Mae’r Gwasanaeth Trin Traed yn gweithio’n agos â gofalwyr a phobl sy’n dioddef o ddiabetes i hyrwyddo cynhyrchu ar y cyd er mwyn atgyfnerthu iechyd traed da ymysg y boblogaeth.